Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid newydd i sicrhau cysylltiadau Cymru yn Ewrop ar ôl Brexit.
Yn ôl Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth, Eluned Morgan, bydd £320,000 yn cael ei fuddsoddi er mwyn sicrhau cysylltiadau Cymru â rhanbarthau, gwledydd a rhwydweithiau Ewropeaidd ar ôl Brexit.
Bydd y cyllid yn dod o Gronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd ac yn gal ei ddosbarthu ymysg prosiectau sy’n ceisio helpu i ddiogelu cysylltiad presennol o fewn meysydd addysg, iechyd, gwyddoniaeth a diwylliant.
Dywed Eluned Morgan: “Bydd y cyllid yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cynorthwyo sefydliadau yng Nghymru i gynnal a chryfhau’r cysylltiadau hollol hanfodol hynny gyda phartneriaid strategol allweddol yn Ewrop mewn byd ar ôl Brexit.
“Bydd yn ariannu ystod o weithgareddau wedi’u hanelu at liniaru’r risgiau y mae Brexit yn eu peri i gysylltiadau Cymru â phartneriaid strategol allweddol yn Ewrop.”