Mae bachgen wyth oed o Gwm Rhondda, sy’n cael ei addysgu adref, wedi ennill gwobr am gychwyn busnes gyda £5 a rhoi’r elw at helpu pobol sy’ wedi cael eu bwlio.
Cychwynnodd Jayden McKeague fusnes gwerthu breichledi fel rhan o Sialens Pum Punt Gwladol sy’n cael ei redeg gan y corff Young Enterprise.
Cafodd yr enillwyr eu gwobrwyo mewn seremoni yr wythnos hon.
£5 a phedair wythnos i greu elw
Fe gafodd y cystadleuwyr £5 a phedair wythnos i gychwyn busnes a chreu gymaint o elw â phosib.
Dywedodd Prif Weithredwr Young Enterprise Michael Mercieca: “Mae Sialens Pum Punt yn hanfodol er mwyn hybu entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc.”