Mae’r Aelod Seneddol, Rory Stewart, a oedd yn un o’r wynebau amlwg yn ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn ddiweddar, eisiau cael ei ethol yn Faer annibynnol tros Lundain.

Fe gyhoeddodd yr aelod tros Penrith a’r Border y bore yma (dydd Gwener, Hydref 4) ei fod wedi gadael y Blaid Geidwadol ac yn bwriadu ymddeol fel Aelod Seneddol adeg yr etholiad nesaf.

Roedd y cyn-weinidog yn y Cabinet ymhlith y 21 Aelod Seneddol a gafodd eu gwahardd o grŵp y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl pleidleisio yn erbyn eu llywodraeth eu hunain a chefnogi ymgais i atal Brexit heb gytundeb.

Bydd yr etholiad ar gyfer Maer Llundain yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf, ac ymhlith gwrthwynebwyr Rory Stewart fydd deilydd presennol y swydd, Sadiq Khan o’r Blaid Lafur; a’r Ceidwadwr Shaun Bailey, a dderbyniodd sêl bendith Boris Johnson yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn ddiweddar.

Mae Rory Stewart wedi rhybuddio am y peryglon sy’n wynebu Llundain yn sgil Brexit ac, pe bae yn Faer yno, mae’n addo brwydro yn erbyn yr hyn mae’n ei alw’n “eithafiaeth” yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain.

“Dw i’n gadael y siambr Gothig yn San Steffan sy’n llawn gweiddi,” meddai. “Ac yn dianc o’r wleidyddiaeth sy’n gwneud i mi deimlo, weithiau, nad yw [Donald] Trump wedi gadael Llundain.”