Mae ymchwiliad ar y gweill yn nhref Llanelli yn dilyn digwyddiad yn ystod oriau mân y bore (dydd Mawrth, Mawrth 26) lle bu’n rhaid i’r heddlu arfog gael eu galw.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe gafodd swyddogion eu galw i Stryd Tywyn yn fuan wedi 2yb er mwyn delio â dyn sydd bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythion i ladd.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty fel mater o ragofal, ac mae’n parhau yn y ddalfa.
Ychwanega’r heddlu eu bod nhw wedi cyfeirio’r achos at y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymchwilio i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) er mwyn iddyn nhw gynnal adolygiad ar amgylchiadau’r digwyddiad.