Mae mwy na 10% o bleidleiswyr yn ardaloedd Ceredigion, Arfon a Chaerdydd wedi arwyddo deiseb boblogaidd sy’n galw am ddiddymu Erthygl 50.

Mae’r ddeiseb hefyd wedi derbyn cefnogaeth bron i 10% o bleidleiswyr etholaeth Mynwy (9.76%), sef sedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol sydd o blaid Brexit, David Davies.

Mae’r ddeiseb ‘Revoke Article 50’ wedi lwyddo i ddenu 5.7m o arwyddwyr, ac mae eisoes yn cael ei ystyried y ddeiseb fwyaf poblogaidd erioed i gael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau San Steffan.

Roedd yn denu bron i 2,000 o lofnodion y munud ar un adeg yr wythnos ddiwethaf – y gyfradd uchaf erioed o lofnodion, yn ôl y Pwyllgor Deisebau.

Cefnogaeth

Mae map ar-lein sy’n dangos nifer y arwyddwyr fesul etholaeth yn dangos bod y ddeiseb ar ei mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn etholaethau Arfon, Ceredigion a Chaerdydd.

Mae’r ddeiseb hefyd wedi derbyn cefnogaeth bron i 10% o bleidleiswyr etholaeth Mynwy (9.76%), sef yr Aelod Seneddol sydd o blaid Brexit, David Davies.

  • Gogledd Caerdydd – 12.32% (11,151);
  • Canol Caerdydd – 12.03% (11,220);
  • Gorllewin Caerdydd – 11.77% (10,982);
  • Arfon – 10.74% (6,691);
  • Ceredigion – 10.32% (7,544).

Diffyg cefnogaeth

Yn y cyfamser, mae’r ddeiseb ar ei lleiaf poblogaidd yn etholaethau cymoedd y de, gyda nifer yr arwyddwyr yn llai na 4% mewn rhai seddi Llafur:

  • Blaenau Gwent – 3.01% (2,095);
  • Merthyr Tudful a Rhymni – 3.41% (2,598);
  • Rhondda – 3.42% (2,367);
  • Cwm Cynon – 3.64% (2,576).

Mewn ardaloedd fel Islwyn, Torfaen, Aberafon, Ogwr a Dwyrain Abertawe wedyn, mae’r ddeiseb ond wedi denu ychydig dros 4% o gefnogaeth pleidleiswyr.