Mae miloedd o bobol Syria wedi ymgynnull ar strydoedd dinasoedd y wlad er mwyn protestio yn erbyn cydnabyddiaeth arlywydd yr Unol Daleithiau o sofraniaeth Israel yn Golan.
Mae dynion a merched yn gorymdeithio gyda’u fflagiau a baneri yn dweud ‘Yn Syria mae Golan’.
Dechreuodd y protestio fore heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 26) yn ninas ddeheuol Sweida, ac mae gwrthdystiad arall yn cael ei gynnal yn Daraa.
Mae’n dilyn penderfyniad Donald Trump i arwyddo datganiad sy’n cydnabod sofraniaeth Israel dros Golan heddiw, gan fynd yn groes i hanner canrif o bolisi’r Unol Daleithiau.
Wrth sefyll ochr yn ochr â Phrif Weinidog Israel – Benjamin Netanyahu – yn y Tŷ Gwyn, mae’r Arlywydd wedi ffurfioli’r cyhoeddiad a wnaeth ar Twitter yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd ei bod yn bryd i’r Unol Daleithiau weithredu 52 o flynyddoedd ar ôl i Israel feddiannu’r ucheldiroedd sy’n ffinio â Syria.