Mae ymdrechion i ddod o hyd i Emiliano Sala, ymosodwr newydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, bellach wedi dod i ben.

Roedd y pêl-droediwr a’i beilot, David Ibbotson, yn teithio o Nantes i Gaerdydd pan ddiflannon nhw nos Lun (Ionawr 21).

Er gwaethaf ymdrechion gan dimoedd achub – gydag awyrennau, hofrenyddion a chychod ynghlwm â nhw – dyw’r chwiliadau ddim wedi dwyn ffrwyth.

A bellach mae Harbwrfeistr Guernsey, wedi cadarnhau bod yr ymdrech achub yn dod i ben.

“Mae’n hynod annhebygol eu bod wedi goroesi,” meddai Capten David Barker. “Mae ei deulu wedi cael eu hysbysu, a hoffwn gydymdeimlo â’r peilot a’r teithiwr yn ystod y cyfnod anodd yma.

“Er nad ydyn yn chwilio mwyach, dyw’r mater ddim wedi’i ddatrys a byddwn yn annog llongau ac awyrennau i fod yn wyliadwrus rhag ofn eu bod yn gweld yr awyren.”