Mae heddlu Guernsey wedi ail-ddechrau’r ymdrech i chwilio am yr awyren a oedd yn cludo ymosodwr newydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd o Lydaw i Gymru.

Roedd y llu wedi gohirio’r chwilio dros nos, gan ddweud y byddai penderfyniad ynglŷn â pharhau’r ymdrech ai peidio yn cael ei wneud yn y bore.

Ond mewn diweddariad toc cyn 8yb heddiw (dydd Iau, Ionawr 24), maen nhw wedi penderfynu ailgychwyn, gan ganolbwyntio ar ynysoedd Burhou, Alderney a Sark, ynghyd â chreigiau Casquets ac arfordir gogledd penrhyn Cherbourg.

Mae Emiliano Sala a’r peilot, David Ibbotson, wedi bod ar goll ers nos Lun (Ionawr 21), pan oedden nhw’n teithio ar yr awyren Piper PA-46 Malibu o Nantes i Gaerdydd. Mae negeseuon ffôn a wnaed gan y pel-droediwr yn datgelu ei fod yn “llawn ofn” ac “ar awyren sydd fel pe bai’n syrthio’n ddarnau”.

Yn ôl John Fitzgerald, prif swyddog Channel Islands Air Search, mae’n annhebygol erbyn hyn bod achubwyr yn mynd i ddod o hyd i unrhyw oroeswyr.