Mae heddlu’n sy’n chwilio am rywun a ymosododd yn rhywiol ar wraig yng Nghaerdydd yn dweud eu bod wedi arestio dyn.
Ddoe, roedd Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi llun o’r person yr oedden nhw’n ei amau o gyflawni’r drosedd.
Fe fu’n rhaid i wraig yn ei 20au gael triniaeth ysbyty oherwydd yr ymosodiad yn oriau mân bore Llun yn ardal Glanyrafon.
Fe alwodd yr heddlu am gymorth i chwilio am Bwyliad o’r enw Krzysztof Monko, 29, sy’n 6’5” a gyda gwallt coch.
Heddiw fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod wedi arestio dyn 29 oed a’u bod yn diolch i’r cyhoedd am eu cymorth.