Nick Bourne - Ceidwadwyr
Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n dadlau dros roi llais newydd i Gymru…
Nawr, yn fwy nag erioed – mae angen llais newydd ar Gymru. Ein gwlad ni yw’r dlotaf yn y Deyrnas Unedig, mae rhestrau aros y GIG yn cael eu hanwybyddu’n rheolaidd, ac mae perfformiad ein plant mewn darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn waeth nag yn Latfia, Estonia a Slofenia. Dyna beth sydd gyda ni i’w ddangos ar ôl 12 mlynedd o reolaeth gan Lafur yma, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau rhoi terfyn ar hyn.
Mae gyda ni’r bobol, y polisiau a’r ymroddiad i newid y wlad, ac ein rhoi ni yn ôl ar y llwybr cywir. Fe fydden ni’n cael gwared ar drethi busnes i bob busnes bach, a’u galluogi i fuddsoddi mewn staff a datblygu. Fe fydden ni’n creu Cyngor Partneriaeth Busnes newydd, ac yn datblygu’r strategaeth gweithgynhyrchu sydd wedi cael ei haddo ond byth wedi cael ei gyflawni gan Lafur. Gan ein bod ni’n cydnabod bod rhai cymunedau yng Nghymru angen mwy o help nag eraill i feithrin eu heconomiau, fe fydden yn cyflwyno nifer o Ardaloedd Menter ar draws y wlad. Dyma beth sydd ei angen i roi’r hwb angenrheidiol i’n heconomi ni.
Yn lle torri cyllideb y GIG o £1 biliwn dros y dair blynedd nesaf – fel y byddai Llafur yn gwneud – rydyn ni wedi ymroi i’w ddiogeli, law yn llaw â’r raddfa chwyddiant. Ni, felly, yw’r unig blaid yng Nghymru sydd wedi ymroi i gael gwared ar wastraff a buddsoddi mewn iechyd. Fe fydden ni’n creu Cronfa Cyffuriau Canser, buddsoddi mewn gwasanaethau a hospis i ddioddefwyr strôc, datblygu Cynllun Canser Cenedlaethol, a phenodi Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus – a fyddai’n canolbwyntio ar or-dewdra ac ysmygu.
I roi gwell dechreuad i’n plant mewn bywyd, fe fydden yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i athrawon, rhieni a llywodraethwyr. Trwy ariannu ysgolion yn uniongyrchol o’r Cynulliad, fe fyddem yn torri £102 miliwn mewn tâp coch a biwrocratiaeth bob blwyddyn, a rhoi’r cyfle i’r bobol sy’n nabod eu hysgolion orau i wneud penderfyniadau yn eu cylch. Fe fydden ni’n cau’r bwlch canlyniadau rhyngom ni ac ysgolion Lloegr, ac fe fydden ni yn gyrru ein plant yn eu blaen, i’w helpu i lwyddo.
Nawr, yn fwy nag erioed – mae angen llais newydd ar Gymru. Gall Ceidwadwyr Cymru roi’r llais hwnnw.