Bethesda (Maniac Pony CCA 3.0)
Mae dau o bobol wedi’u harestio yn dilyn cyrch cyffuriau  gan yr heddlu yn ardal Bethesda.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe ddaethon nhw o hyd i lawer o gyffuriau mewn cyfeiriad yn y pentref, gan gynnwys kilogram o heroin gyda gwerth ar y stryd o tua £100,000.

Mae dau ddyn, 22 a 25 oed, o Fethesda a Bangor wedi cael eu cymryd i’r ddalfa ar amheuaeth o feddu’r cyffuriau gyda’r bwriad o’u gwerthu neu gynllwynio i’w gwerthu. Maen nhw’n cael eu holi yn swyddfa’r heddlu Caernarfon.

Mae’r cyrch yn rhan o ymdrech i ddelio â phryderon y gymuned leol am ddefnydd cyffuriau ym Methesda a Bangor.

“Rydan ni’n cydnabod pryderon cymunedau ac fe fyddwn ni’n parhau i dargedu pobol sy’n ymwneud â gwerthu a delio mewn cyffuriau,” meddai llefarydd.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu â Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.