Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei ddal ar gamera yn gyrru moped ar un olwyn ar lôn fawr yng Nghasnewydd.

Dywedodd yr heddlu bod lluniau o’r dyn yn gyrru moped heb y gofal dyladwy, wedi cael eu tynnu tua 2:30 ar brynhawn Iau, Hydref 27.

Mae Heddlu Gwent wedi lledaenu lluniau o’r dyn yn gwneud y tric yn ogystal â rhif plât trwydded y moped er mwyn dal y dihiryn ar un olwyn.

Mae’r Glas yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu sy’n gwybod pwy sydd berchen y moped gyda rhif plât trwydded YR52 YOL, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu rhif y digwyddiad – 472 27/10/2016.