Tariq Awan, Cynghorydd newydd y Blaid yn Grangetown, ar y dde.
Mae Plaid Cymru wedi cipio ward Grangetown oddi ar y Blaid Lafur mewn isetholiad yng nghanol Nghaerdydd.
Llwyddodd Tariq Awan i ennill 41.7% o’r bleidlais, gan gynyddu canran Plaid Cymru 7.7% ers yr etholiad diwethaf.
Yn ôl Aelod Cynulliad Canol De Cymru, Neil McEvoy, sydd hefyd yn gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Llafur yn “colli grym yn y brifddinas”.
“Mae’r canlyniad yn dangos mai Plaid yw’r gwrthwynebydd clir i Lafur ar ystod o seddi ledled Caerdydd,” meddai Neil McEvoy.
“Mae ein neges gwrth-Lafur caled, ynghyd â pholisïau positif y byddwn yn gweithredu arnyn nhw pan fyddwn yn rhedeg y Cyngor yn ennill momentwm.
“Fe wnaeth pobol Grangetown bleidleisio am strydoedd glân a sicrwydd i ddyfodol gwasanaethau fel chwarae plant. Bydd Plaid [Cymru] Caerdydd yn ail-adeiladu gwasanaethau chwarae a gwasanaethau ieuenctid. Byddwn hefyd yn gofalu am bethau hanfodol, fel glanhau’r strydoedd.
“Mae’r dyfodol yn obeithiol i’r Blaid yng Nghaerdydd. Dyma le mae’r Blaid yn tyfu fwyaf yng Nghymru.”
Llafur yn colli tir
Cafodd Llafur 37.1% o’r bleidlais, gan golli 3.1%. Y Ceidwadwyr oedd yn drydydd â 10.2% – cynnydd o 3.3% ar eu pleidlais ddiwethaf.
Gyda 6.6% o’r bleidlais, collodd y Democratiaid Rhyddfrydol 4.6% o gefnogaeth ac yn ei etholiad cynta’ yn y ward, llwyddodd UKIP i gael 5%.