Yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae Nathan Gill wedi ei gyhuddo o “fradychu pobol Cymru” ac o fod yn aelod “rhan amser” o Senedd Cymru.
Ers i bumed tymor y Cynulliad ddechrau ym mis Mai mae’r Aelod Cynulliad – sydd hefyd yn Aelod o Senedd Ewrop – wedi bod yn absennol ar gyfer mwy na dwy ran o dair y pleidleisiau yn y Siambr ac mae’n wynebu galwadau i ymddiswyddo.
Ond mae Nathan Gill yn mynnu bod gwaith Aelod Cynulliad yn fwy na bod yn bresennol yn y Senedd i fwrw pleidlais, a bod ei ymgyrchu dros Brexit yn refferendwm mis Mehefin wedi ei gadw draw o Fae Caerdydd.
Bu 95 o bleidleisiau ar gynigion sydd wedi dod gerbron y Cynulliad y tymor hwn – roedd Nathan Gill yn bresennol i 30 ohonyn nhw, ac yn absennol ar gyfer 65.
Mae’r wedi gwrthod rhoi’r gorau i’w swydd arall yn Aelod Senedd Ewropeaidd, er bod galwadau o’r newydd arno i wneud hynny.
“Bradychu pobol Cymru”
“Mae hyn yn enghraifft amlwg o pam na all Aelod Cynulliad ‘Ddyblu-Swydd’ fel Aelod Senedd Ewropeaidd hefyd,” meddai llefarydd grŵp UKIP yn y Cynulliad.
“Allwch chi ddim bod mewn dau le ar yr un pryd. Addawodd Gill, yn ei lenyddiaeth etholiadol, i ymddiswyddo fel ASE ar ôl cael ei ethol yn Aelod Cynulliad.”
Mae Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru ac Aelod Cynulliad arall tros Ogledd Cymru, wedi galw ar Nathan Gill i gamu o’r neilltu hefyd.
“Mae’n warthus fod rhywun sydd i fod i gynrychioli’r Gogledd yn hapus i gymryd ei gyflog heb fynd i bleidleisio a chymryd rhan yn y Senedd. Mi ddylai ymddiswyddo a sicrhau fod cynrychiolaeth lawn o’r Gogledd yn y Cynulliad.”
Y refferendwm – esgus dros golli sesiynau
Mewn datganiad i Golwg, fe wnaeth Nathan Gill gydnabod ei fod wedi colli sesiynau yn y Siambr cyn y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd, er bod y cofnodion yn dangos ei fod wedi colli’r rhan fwyaf o sesiynau ar ôl y bleidlais honno hefyd.
“Dw i’n cydnabod yn ystod y cyfnod a arweiniodd ar refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, roedd fy mhresenoldeb yn isel. Cefais fy ethol gan bobol Cymru fel llais Ewrosgeptig a dw i ddim yn ymddiheuro am ymgyrchu dros bleidlais unwaith mewn bywyd, mae’r canlyniad yn siarad dros ei hun,” meddai.
“Mewn dadleuon ar y teledu a radio ar refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, roeddwn yn erbyn Aelodau Cynulliad eraill oedd hefyd yn absennol yr un pryd a fi. Fodd bynnag, roedden nhw’n gallu rhannu’r byrdwn gydag aelodau eu pleidiau sydd â mwy o gynrychiolwyr etholedig.”
Stori: Mared Ifan
Mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.