Gyda diwrnodau’n unig tan i America ethol ei harlywydd newydd, mae’r ras rhwng Hillary Clinton a Donald Trump yn troi’n ffyrnicach.
Mae’r BBC yn adrodd bod y ddau yn sownd wrth ei gilydd 45%-45% yn y polau diweddaraf.
Dal i chwarae ar sgandal e-byst Hillary Clinton y mae Trump, gan ddweud y byddai “cwmwl o ymchwiliadau” yn ei dilyn i’r Tŷ Gwyn pe bai’n ennill y ras.
Yn y cyfamser, mae’r Arlywydd presennol, Barack Obama, wedi arwain ymgyrchoedd y Democratiaid yn Florida – lle mae’r ras yn agos a’r canlyniad yn hollbwysig. Mae Obama wedi dweud wrth bleidleiswyr yno i feddwl o ddifrif am beryglon ethol Donald Trump.
Mae’r arolygon bellach yn dangos bod ymgeisydd y Gweriniaethwyr wrth gwt Hillary Clinton, gyda’r Democratiaid yn gwneud popeth yn eu gallu i hel cefnogaeth mewn taleithiau saff.
Gobaith i Trump?
Mae’n ymddangos bod llygedyn o obaith i Donald Trump, ond mae dal angen iddo ennill Florida i gael unrhyw gyfle o gamu i’r Tŷ Gwyn.
Bu’r biliwnydd yn canolbwyntio ar ymchwiliad yr FBI i e-byst Hillary Clinton, er mwyn apelio at Weriniaethwyr mwy canol y ffordd na’i gefnogwyr traddodiadol mwy asgell dde.
Yn y cyfamser, mae Clinton a’i ffrindiau yn gobeithio cadw’r sylw ar eu gwrthwynebydd, gan amlygu ei sylwadau dadleuol am fenywod a lleiafrifoedd.
Cefnogaeth y Ku Klux Klan
Mae papur newyddion swyddogol y Ku Klux Klan wedi datgan ei gefnogaeth i Donald Trump – y tro cynta’ i hyn ddigwydd i unrhyw ymgeisydd Gweriniaethol neu Ddemocrataidd.
Mae arwyddion bod ymgyrch Hillary Clinton yn dechrau colli stêm, gyda sôn hefyd bod nifer y bobol ddu yr oedd disgwyl iddyn nhw bleidleisio iddi, ddim am wneud.