Cafodd Stephen Lawrence ei lofruddio ar Ebrill 22, 1993 mewn ymosodiad hiliol digymell â chyllell yn ne Llundain. Roedd e ond yn ddeunaw oed ar y pryd. Fe fu’n aros am fws gyda’i ffrind, Duwayne Books. Amgylchynodd criw o bump neu chwech o lanciau e, ac fe wnaeth o leiaf un ohonyn nhw ei drywanu fe i farwolaeth. Bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 2012, cafwyd dau ddyn yn euog o lofruddio Stephen.

Fe wnaeth y llofruddiaeth a’r cyfnod wedyn arwain at gyfres o newidiadau yn ymchwiliadau’r heddlu, yn fwyaf nodedig o ran swyddogion cyswllt teuluol. Daeth yr ymchwiliad cyhoeddus a ddilynodd i ben gydag Adroddiad Macpherson yn 1999. Datgelodd hyn fethiannau mawr yn ymchwiliad yr heddlu a’r ffordd y cafodd teulu a ffrindiau Stephen eu trin.

Roedd hiliaeth ac ymateb yr heddlu i droseddau ar sail hiliaeth yn flaenllaw yn ymchwiliad Stephen Lawrence. Roedd argymhellion newydd hefyd o ran sut mae’r heddlu’n ymdrin â theuluoedd y rhai sy’n cael eu llofruddio.

Roedd sôn am y geiriau “cyswllt teuluol” 136 o weithiau yn Adroddiad Macpherson. A chafodd methiant cyswllt teuluol ei ddisgrifio fel “un o agweddau mwyaf trist a thruenus yr achos”. Cafodd rhieni Stephen, Doreen a Neville, eu trin ag ansensitifrwydd, yn nawddoglyd a heb dderbyn gwybodaeth am yr ymchwiliad roedd hawl ganddyn nhw i’w chael.

Dydy hi’n fawr o syndod fod yr ymchwiliad wedi gwneud nifer o argymhellion o ran cyswllt teuluol. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod swyddogion cyswllt teuluol (FLOs) ar gael ar lefel leol, a’r rheiny’n ymroddedig i’r rôl a heb eu hanfon i unman arall. Roedd argymhelliad hefyd fod hyfforddiant ar gyfer FLOs yn cynnwys hiliaeth ac ymwybyddiaeth o amrywiaeth.

Nododd argymhelliad arall mai “dyletswydd bositif” yr heddlu yw darparu “yr holl wybodaeth bosib i’r teulu am y drosedd a’r ymchwiliad iddi”. Ar y pryd, roedd hyn yn newid mawr yn niwylliant ymchwiliadau’r heddlu. Roedd ditectifs wedi arfer â phenderfynu beth oedd angen i’r teulu ei wybod. Nawr, roedd yn rhaid iddyn nhw ddarparu ar gyfer anghenion a dewisiadau’r teulu.

Cafodd yr argymhellion o ran cyflwyno FLOs eu cyflwyno ar unwaith, ac fe fu i Heddlu Llundain symud bron ar unwaith i oes lle’r oedd cyrsiau hyfforddi’n cael eu cynnal bob wythnos yng Nholeg yr Heddlu yn Hendon.

Mae rôl yr FLO bellach yn hanfodol i ymchwiliadau i lofruddiaethau ac mae’n un o’r rolau cyntaf i gael eu llenwi pan fo ymchwiliad yn dechrau. Mae ei swyddogaeth yn ddeublyg.

Yn gyntaf, mae FLOs yn ymchwilwyr sydd wedi’u hyfforddi sy’n casglu ac yn helpu i asesu perthnasedd unrhyw wybodaeth y gall perthnasau ei rhoi i ymchwiliad. Yn ail, mae’r FLO yn llywio rhwng y teulu a’r ymchwiliad. Maen nhw’n sicrhau bod y teulu’n deall y broses ac yn cael cymaint o fanylion ag y mae modd eu rhannu o ran cynnydd yr ymchwiliad.

Mae’r FLO yn helpu i baratoi’r teulu ar gyfer yr hyn sydd, yn anochel, yn brofiad trawmatig, ac yn eu cefnogi drwy eiliadau pwysig megis cynadleddau i’r wasg, apeliadau a’r achos llys. Mae’r rôl yn gofyn am gryn arbenigedd a sensitifrwydd, ac o’i gwneud yn iawn, gall helpu i adnabod llofruddwyr tra’n gwella ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.

Mae swyddogion cyswllt teuluol hefyd wedi dod yn amhrisiadwy mewn digwyddiadau eraill gartref a thramor. Er enghraifft, cafodd FLOs eu hanfon yn dilyn gwrthdrawiad rheilffordd Ladbroke Grove fis Hydref 1999, ymosodiadau Medi 11 yn Efrog Newydd yn 2001, a tswnami Dydd San Steffan 2004 Boxing Day tsunami yng nghefnfor India.

Hyfforddiant

Fodd bynnag, mae mwy y gellir ac y dylid ei wneud i asesu’n barhaus a yw heddluoedd yn gwneud y defnydd cywir a gorau o FLOs. Mae hyfforddi FLOs yn rheolaidd yn bwysig er mwyn cynnal a gwella’r rôl yma, tra bod gosod yr FLOs cywir gyda theuluoedd hefyd yn hanfodol. Mae hyn yn sicrhau bod cydnabyddiaeth i amrywiaeth gymdeithasol, ddemograffig a diwylliannol, ac y gall FLOs ymgysylltu’n effeithiol â’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod fod bod yn swyddog cyswllt teuluol yn gallu bod yn brofiad dwys a dirdynnol, ac felly mae’n angenrheidiol i’r heddlu adnabod a gofalu am y rheiny sy’n gwirfoddoli i ymgymryd â’r rôl yma.

Dylai fod gan deuluoedd a chymunedau y cyfle i asesu a yw’r heddlu’n gwneud y defnydd gorau o FLOs. Byddai cynnal cyfweliadau â theuluoedd ar ddiwedd ymchwiliad yn un ffordd o gyflawni hyn.

Yn drist iawn, fe gymerodd lofruddiaeth Stephen Lawrence i’r dull yma o blismona gael ei gydnabod fel hawl absoliwt teuluoedd sy’n galaru. Mae hi bellach yn ddyletswydd ar yr heddlu i sicrhau bod cyswllt teuluol yn parhau’n flaenoriaeth a bod adnoddau priodol ar ei gyfer.