Ar Ddiwrnod y Ddaear heddiw (Ebrill 22), mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ailadrodd eu galwadau i ddefnyddio mwy ar wlân cynaliadwy Cymreig.

Gallai’r gwlân gael ei ddefnyddio fel opsiwn gwahanol i ‘ffasiwn cyflym’, meddai llefarydd newid hinsawdd y blaid.

Thema Diwrnod y Ddaear eleni yw Buddsoddi yn ein Planed, a phwrpas y diwrnod ers iddo gael ei sefydlu yn 1970 yw dangos y gefnogaeth tuag at gadwraeth ac edrych ar ôl y blaned.

Cafodd y diwrnod cyntaf ei gynnal ar ôl i olew ollwng yn Santa Barbara, California yn 1969 pan wnaeth ugain miliwn o Americanwyr brotestio yn erbyn llygredd aer a dŵr mewn gwahanol ddinasoedd dros yr Unol Daleithiau.

Meddai Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig dros Aberconwy a llefarydd newid hinsawdd y blaid: “Mae’r diwydiant ffasiwn angen opsiwn amgen i’r mathau o ddeunyddiau synthetig sy’n rheoli’r farchnad dillad, ac yn cynhyrchu hyd at 10% o allyriadau carbon y byd.

“Dydy’r dillad ddim fel arfer yn para, ac maen nhw’n gorffen eu hoes mewn tomenni sbwriel.

“Dw i’n meddwl bod Diwrnod y Ddaear yn gyfle cyffrous i ailadrodd fy ngalwad i annog pobol i helpu’r amgylchedd a chefnogi busnesau lleol, gan ddewis dillad sydd wedi’u creu o wlân Cymreig, fel deunydd ffasiynol, cynaliadwy i Gymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd.

“Rydyn ni mewn sefyllfa unigryw yma yng Nghymru, mae gennym ni ddigonedd o ddefaid sydd â’r potensial i’n darparu â nifer uchel o ddilladau naturiol o ansawdd uchel.”