Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Tomás P.T. Mac Ruairí, cyn-Lywydd y mudiad Gwyddeleg Conradh na Gaeilge, yn dilyn ei farwolaeth.

Yn aelod o’r mudiad ers 1955, mae’n cael ei ystyried yn un o gewri’r mudiad iaith yn Iwerddon, ac yntau’n aelod o nifer o’i bwyllgorau ers 1962.

Fe oedd sylfaenydd cangen Craobh Bhréanainn y mudiad yng ngogledd Dulyn, ac roedd yn weithgar yn Ardchraobh a Coiste Ceantair Bhaile Átha Cliath.

Gyda’i gangen, fe sefydlodd Coláiste Samhraidh yn Tír an Fhia

Bu’n swyddog y wasg ac yn swyddog gyda’r mudiad yn y 1960au, pan oedd yn olygydd ar gylchgrawn Rosc, ac fe fu’n gyfrifol am gydlynu digwyddiad i nodi hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn 1966.

Cafodd ei ethol yn Tánaiste (dirprwy arweinydd) y mudiad yn 1994, ac fe fu’n Llywydd rhwng 1998 a 2003.

Y tu allan i’r mudiad, roedd yn newyddiadurwr gydag Irish Press, Inniu a chyhoeddiadau eraill.

Roedd yn gyfarwyddwr ar An Comhlacht Chumarsáide Creagáin Teo, a hefyd o CCC Nuacht Teo.

Roedd yn gyd-sylfaenydd Gaelscoileanna Teo a Scoil Neasáin, lle bu’n reolwr gwirfoddol rhwng 1970 a 1974.

Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn darlledu, ac fe fu’n Ysgrifennydd Bwrdd Raidió na Life o 2010 i 2023.

Roedd yn aelod o Fwrdd Seachtain na Gaeilge, yn gadeirydd Oireachtas na Gaeilge rhwng 1955 a 1996, yn Llywydd Comhdháil Náisiúnta na Gaeilge rhwng 2004 a 2010, ac yn Bennaeth Iwerddon Gŵyl Lorient am chwarter canrif.

Fe fu hefyd yn gadeirydd An Siopa Leabhar ers 2017.

‘Tristwch mawr’

“Mae marwolaeth Tomás Mac Ruairí yn dristwch mawr i Conradh na Gaeilge a’r gymuned iaith Wyddeleg,” meddai Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge.

“Mae Conradh na Gaeilge yn cydymdeimlo â’i deulu yn Baile Átha Cliath ac Ard Mhacha, yn ogystal â’i holl ffrindiau.

“Mae e wedi rhoi llawer iawn o’i amser a’i egni dros y blynyddoedd i Conradh na Gaeilge ac i’r mudiad iaith Wyddeleg, ac yn bersonol roedd P.T. bob amser yn ffrind mawr ac yn fentor i fi er pan oeddwn i’n fyfyrwraig tan yr wythnos hon.

“Mae dyled fawr gennym ni oll iddo am hynny.”