Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu’r costau ychwanegol o weithredu parthau terfyn cyflymder 20m.y.a.
Cafodd y parthau eu cyhoeddi’n wreiddiol gan Lee Waters, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, gyda’r bwriad o achub bywydau a gwella’r amgylchedd.
Bydd y cynlluniau’n dod i rym mewn ardaloedd preswyl adeiledig o Fedi 17, pan gaiff nifer o strydoedd a therfynau 30m.y.a. eu gostwng i fod yn barthau 20m.y.a.
Daeth cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd arian ychwanegol yn cael ei wario er mwyn darparu mwy o gamerâu i helpu i orfodi’r cyfyngiad cyflymder newydd.
Bydd y gost yn dod ar ben y costau gwreiddiol oedd yn eu lle er mwyn rhoi’r cynllun ar waith.
Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i GanBwyll, sy’n gweithio gyda’r Llywodraeth i ddiogelu ffyrdd Cymru.
Dywed Llywodraeth Cymru fod £80,000 ychwanegol wedi cael ei ddarparu i brynu offer ar gyfer gorfodi’r parthau 20m.y.a. y flwyddyn ariannol ddiwethaf, tra bod £35,000 wedi’i wario yn ystod y cyfnod peilot.
Cafodd wyth cymuned eu dewis fel aneddiadau cam cyntaf i gyflwyno’r terfyn cyflymder, gan gynnwys Llandudoch yn Sir Benfro, gogledd Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, canol Gogledd Caerdydd, a’r Fenni yn Sir Fynwy.
Yn ôl y Llywodraeth, £2,550,000 yw’r arian grant blynyddol safonol ar gyfer GanBwyll, ac mae hynny’n talu am gostau rhedeg y ddwy swyddfa docynnau canolog.
‘Gwastraffu arian trethdalwyr Cymru’
“Yn ogystal â’r gost o £33m ar gyfer prosiect diangen parthau 20m.y.a. Llywodraeth Cymru, datgelwyd bellach y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i orfodi’r terfyn cyflymder newydd hwn,” meddai Natasha Asghar.
“Bydd llawer o bobol yn pendroni pam nad yw’r arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn atgyweirio tyllau yn y ffyrdd.
“Mae hyn unwaith eto yn gwastraffu arian trethdalwyr Cymru, gyda honiad y llywodraeth y byddai’n gwneud ffyrdd yn fwy diogel, sydd eisoes wedi’i chwalu gan astudiaeth gan Brifysgol Queen’s, Belfast a Phrifysgol Caeredin, a Phrifysgol Caergrawnt sydd wedi darganfod bod lleihau cyfyngiadau o 30m.y.a. i 20m.y.a. wedi cael ‘ychydig iawn o effaith’ ar ddiogelwch ffyrdd.
“Fel gyda phob polisi Llafur, nid y gost sydd wedi’i hamlinellu yw’r ffigwr terfynol byth.
“Byddai’n well pe bai arian trethdalwyr yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd angen arian ychwanegol, i gefnogi’r cyhoedd mewn ffyrdd mwy uniongyrchol fel lleihau amseroedd aros yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Yn ddiweddar fe wnaethom ddarparu £80,000 ychwanegol i GanBwyll i’w helpu i addysgu ac ymgysylltu â modurwyr a monitro’r newidiadau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.