Mae Pennaeth Bargeinio ac Ymgyrchoedd undeb Unsain Cymru wedi argymell bod gweithwyr gofal iechyd yn derbyn y pecyn mesurau tâl sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r pecyn newydd, bydd taliad un tro cyfartalog o 3% ar gyfer eleni a chynnydd o 5%, fydd yn weithredol o Ebrill 1 ar gyfer 2023-2024.
Bydd y ddau bwynt graddfa isaf hefyd yn cael eu codi i gyd-fynd â chyflog uchaf Band 2 sy’n cyfateb i gynnydd o 7.8%.
Pe bai’r cynnig yn cael ei dderbyn, bydd staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cael dyfarniad cyfartalog o fwy na 15.7% rhwng 2022 a 2024.
Felly, bydd gweithwyr ar waelod Band 5, megis nyrsys ar ddechrau eu gyrfaoedd, wedi cael cyfanswm codiad cyflog o dros 17%, tra bydd y gweithwyr â’r cyflogau isaf wedi cael codiad cyflog o fwy na 26%.
‘Wedi gwthio cyn belled ag y gallwn’
Er nad yw Jessica Turner, Pennaeth Bargeinio ac Ymgyrchoedd Unsain Cymru, yn credu mai hyn yw’r canlyniad delfrydol, mae hi’n argymell bod aelodau yn derbyn y pecyn.
“Mae’n deg dweud nad yw’r pecyn yn mynd yn ddigon pell i gwrdd â phwysau’r argyfwng costau byw i’n gweithwyr iechyd yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.
“Fodd bynnag, ein barn ni yn Unsain yw ei bod hi’n debyg mai dyma’r gorau rydyn ni’n mynd i’w gael trwy negodi’n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru.”
Mae’r awgrym yn seiliedig ar drafodaeth Pwyllgor Iechyd Unsain, sydd wedi bod yn trafod y cynnig mewn manylder.
“Dydyn ni ddim eisiau peryglu colli’r potensial o gael yr arian ym mhocedi gweithwyr pan rydym yn gwybod eu bod yn teimlo pwysau’r argyfwng costau byw,” meddai wedyn.
“Rydym yn meddwl ein bod ni wedi gwthio Llywodraeth Cymru cyn belled ag y gallwn ni ar yr hyn sydd ar gael yng Nghymru.
“Dydi hynny ddim yn golygu pe bai mwy o arian yn dod drwodd o San Steffan na fydden ni’n disgwyl gweld hynny’n disgyn drwodd i aelodau hefyd.
“Ond rydyn ni’n meddwl mai dyma’r gorau posib ar hyn o bryd heb droi at weithredu diwydiannol parhaus.”
Fodd bynnag, pwysleisia mai penderfyniad yr aelodau’n llwyr yw sut y bydden nhw’n pleidleisio mewn gwirionedd.
‘Nid dyma diwedd y daith’
Dywed hefyd eu bod nhw wedi ymrwymo i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a’u bod nhw eisiau parhau i gydweithio er mwyn gwella cyflog ac amodau gweithwyr iechyd.
“Nid yw hynny’n mynd i ddod i ben os neu pan fyddwn yn setlo’r rownd gyflog hon,” meddai.
Bydd yr undeb yn cymryd amryw o gamau i ddal y Llywodraeth i gyfrif ar eu haddewidion tâl ac i geisio rhoi pwysau ar San Steffan i ddatgloi’r arian ychwanegol sydd ei angen ar weithwyr.
“Rydym am weld y degawd o golli cyflog y mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi’i deimlo yn cael ei wneud i fyny,” meddai.
“Bydd hynny’n cynnwys nifer o gamau megis sicrhau proses dilyniant gyrfa symlach, edrych a yw cyflogau’n cael eu gwerthuso ar y Band cywir a lleihau’r wythnos waith.”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae’n croesawu’r tro pedol ond mae dal gwelliannau i’w gwneud.
“Mae cynnig tâl diweddar Lywodraeth Cymru i nyrsys y gwasanaeth Iechyd yn well na’r cynnig oedd eisoes ar y bwrdd,” meddai.
“Ond, mae’n dal yn is na sydd angen i ddod â’r cyflogau yn ôl i’r lefelau oedden nhw yn ôl yn 2008, ac yn dal i fod yn llawer is na chwyddiant – a bydd gweithwyr iechyd yn dal i wynebu toriad cyflog mewn termau real.
“Beth sy’n rhwystredig ydy bod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried camau oedden ni ym Mhlaid Cymru wedi gofyn iddyn nhw eu hystyried rhai misoedd yn ôl, gan gynnwys edrych ar yr arian sydd ganddyn nhw wrth gefn, er iddyn nhw ddweud – mewn ffordd nawddoglyd ar y pryd – nad oedd yn bosib gwneud defnydd o arian wrth gefn.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gofio hefyd bod elfennau o’r anghydfod sydd ddim yn ymwneud ag arian – gan gynnwys pwysau gwaith a’r angen am gefnogaeth o ran datblygiad proffesiynol.
“Gall Lywodraeth Cymru fod yn dangos eu bod yn cefnogi’n gweithlu heb wario hefyd, drwy wneud yn siŵr eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.”
‘Peth cywir i’w wneud’
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn croesawu’r newyddion.
“Mae’n siomedig bod y Llywodraeth Lafur wedi dweud yn wreiddiol nad oedd ganddyn nhw’r arian i ariannu cynnig cyflog gwell,” meddai Russell George.
“Fodd bynnag, nid oedd hyn yn ymwneud â chyflog i gyd ac rwy’n falch o weld bod cynnydd wedi’i wneud i wella hyblygrwydd ac amodau gwaith ar gyfer staff, a allai wneud y proffesiwn yn fwy deniadol o gymharu â’r swm mawr yr ydym yn ei weld yn cael ei wario ar staff asiantaeth, ond rydym eto i weld y manylion.”
Dywed Eluned Morgan fod y trafodaethau wedi bod yn rhai anodd o ystyried sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru.
“Bu’n rhaid gwneud dewisiadau anodd i ariannu’r cynnig cyflog hwn ac rydym wedi tynnu ar ein cronfeydd wrth gefn a’n tanwariant o’r llywodraeth drwyddi draw i roi’r cynnig hwn at ei gilydd,” meddai.
“Mae defnyddio’r arian hwn i gynyddu cyflogau nawr yn golygu na allwn ei ddefnyddio at ddibenion eraill – ond hyderwn mai dyma’r peth cywir i’w wneud.”