Mae Castell Penrhyn ym Mangor yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr, a byddan nhw’n cynnal diwrnod agored i bobol sydd â diddordeb yr wythnos nesaf.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen ar y safle, mae amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys Tywyswyr y Castell, Gyrwyr Bygi a Thywyswyr Awyr Agored.

Bydd y diwrnod agored yn gyfle i siarad â gwirfoddolwyr eraill, mynd ar daith o amgylch y castell a’r gerddi, a darganfod mwy am y cyfleoedd i helpu.

Yn wreiddiol yn safle i gastell hynafol, cafodd Castell Penrhyn ei ail-adeiladu rhwng 1820 a 1837 mewn steil neo-Normanaidd wedi ei ddylunio gan bensaer Thomas Hopper ar gyfer teulu’r Pennant.

Wedi ei adeiladu ar elw wedi ei wneud ar gaethwasiaeth yn Jamaica ac yn cael ei gynnal gan elw wedi ei wneud drwy waith llafur chwarelwyr lleol, mae’r castell yn adrodd hanes y planhigfeydd siwgr a llechi.

Mae’r castell yn cynnwys stafelloedd moethus, ceginau Fictoraidd, Amgueddfa Reilffordd a gerddi ffurfiol.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gofalu am yr eiddo ers 1951, a heddiw mae’n croesawu dros 120,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

‘Dim angen bod yn hanesydd’

Dywedodd Shari Llewelyn, Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd: “Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig iawn yn croesawu ein hymwelwyr, rhannu ein hanes ac yn edrych ar ôl y lle anhygoel yma.

“Mae hanes Castell Penrhyn yn hynod o bwysig a diddorol i’r ardal leol ac yn ehangach, ac mae ein gwirfoddolwyr yn allweddol i ddod a’r hanes yma i’r amlwg i ymwelwyr.

“Does dim rhaid i chi fod yn hanesydd i wirfoddoli, mae croeso i unrhyw un sy’n gyfeillgar, croesawgar ac â diddordeb yng Nghastell Penrhyn ac eisiau helpu rhannu’r straeon sydd i’w canfod yma, i wirfoddoli.”

Bydd y diwrnod agored ddydd Sadwrn nesaf (Ebrill 29) yn dechrau am 11 y bore, ac yn gorffen am 2 y prynhawn, ac mae gofyn i bobol e-bostio penrhyncastle@nationaltrust.org.uk i fynegi eu diddordeb.