Bydd bwrsari newydd o £5,000 yn cael ei roi i athrawon sydd wedi cwblhau tair blynedd o ddysgu’r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r arian, fydd ar gael i athrawon a enillodd Statws Athro Cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen, yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i roi hwb i recriwtio athrawon sy’n siarad Cymraeg.
Fe fydd y bwrsari ar gael yn y lle cyntaf tan Hydref 2028 i asesu a yw’n llwyddo i annog athrawon i ymuno â’r proffesiwn ac aros yn y maes.
Ynghyd â hynny, mae ail rownd o’r grant adeiladu capasiti’r gweithlu cyfrwng Cymraeg wedi agor, gyda chyfanswm o £800,000 ar gael.
Mae’r cynllun yn darparu grantiau bach i ysgolion fel eu bod nhw’n gallu datblygu ffyrdd arloesol o ddatrys yr heriau recriwtio sy’n eu hwynebu.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y grant, cafodd yr arian ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau fel penodi prentisiaid a’u hyfforddi i ddod yn gynorthwywyr dysgu, a gwneud gwaith uwchsgilio staff.
Fe wnaeth deuddeg o ysgolion uwchradd weithio gyda’i gilydd i ddarparu darpariaeth ar y cyd ar gyfer dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 oedd yn ail-sefyll arholiadau TGAU hefyd.
‘Cryfhau’r gweithlu’
Mae cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Un o’n blaenoriaethau mwyaf ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yw sicrhau bod gennym ddigon o athrawon i ateb y galw am ddysgu yn y Gymraeg,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
“Bydd y pecyn hwn o gefnogaeth yn cryfhau ein gweithlu addysg Gymraeg ac yn sicrhau bod mwy o bobol yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ar gyfer gyrfa.”