Mae Cynnes Gaeaf Yma Cymru wedi lansio ymgyrch addewid Aelodau o’r Senedd heddiw, yn gofyn i Aelodau’r Senedd sefyll i fyny a chefnogi etholwyr drwy annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau costau byw ac ynni sydd yn rhyng-gysylltiedig, a’r argyfwng hinsawdd.

Mae ymchwil gan ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma yn datgelu bod 83% o bobol yng Nghymru yn meddwl y dylid rhoi mwy o gymorth ariannol i bobol sy’n agored i niwed i helpu gyda’u biliau ynni, ac 86% yn cefnogi mwy o gymorth i bobol inswleiddio eu cartrefi i arbed ynni.

Yr addewid llawn yw: “Rwy’n addo cefnogi ymgyrch #GaeafCynnes Climate Cymru, a byddaf yn defnyddio fy llais a phleidlais i fwrw ymlaen â’i bedwar prif gwestiwn:

  • Cefnogaeth frys i aelwydydd bregus
  • Rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol
  • Cynnydd cyflym o ynni adnewyddadwy cost isel
  • Rhyddhewch ni rhag danwyddau ffosil

‘Mwy o fuddsoddiad’

“Rydym yn annog Aelodau Seneddol ar draws pleidiau gwleidyddol ac o amgylch y wlad i gymryd camau i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau cydgysylltiedig costau byw, ynni a’r argyfwng hinsawdd,” meddai Bethan Sayed o Cynnes Gaeaf Yma Cymru.

“Rydym am weld mwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru, a gweld Aelodau o’r Senedd yn cefnogi ein hamcan i rhyddhau Cymru o Danwyddau Ffosil unwaith ac am byth.

“Mae arnom angen cymorth ariannol ychwanegol brys ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed y gaeaf hwn a’r gaeaf nesaf, a chynnydd sylweddol mewn cynlluniau inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni, yn ogystal ag ynni adnewyddadwy cost isel.

“Mae gan Gymru’r atebion, gadewch i ni eu rhoi ar waith.”

‘Ni all pobol Cymru ddioddef gaeaf arall’

“Ni all pobol Cymru ddioddef gaeaf arall fel yr un rydyn ni newydd ei gael,” meddai Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

“Mae angen cartrefi ynni-effeithlon arnom i ddod â’n biliau i lawr ac i leihau allyriadau carbon – nid yn y dyfodol pell. Yn awr.

“Dyna pam mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach ac yn gyflymach i sicrhau bod gennym ni gartrefi cynnes nad ydyn nhw’n costio’r ddaear.

“Rhaid i ni hefyd ddod â chloddio yng Nghymru i ben unwaith ac am byth – mae’r ddaear ar dân, ac ni allwn gloddio mwy o lo, er mwyn y blaned a’r cymunedau lleol sy’n dioddef o’r sŵn a’r llygredd aer.

“Rydyn ni’n gofyn i Aelodau’r Senedd lofnodi addewid i wthio am atebion go iawn fel inswleiddio cartrefi, mwy o ynni adnewyddadwy, rhoi’r gorau i danwydd ffosil a chymorth ariannol i’r rhai sydd mewn angen.”

‘Effeithio ar bob agwedd o bolisi cyhoeddus’

“Yn Tai Pawb, rydyn ni’n credu bod yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd o bolisi cyhoeddus, ac mae gan y sector tai rôl arwyddocaol i’w chwarae wrth wrthbwyso allyriadau a chreu cartrefi a chymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol,” meddai Ross Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Tai Pawb.

“Rydyn ni’n gwybod bod cyflwyno hawl i dai digonol yng Nghymru, er enghraifft, yn golygu bod pobl, dros amser, yn cael mynediad at gartrefi sy’n ddiogel, ac yn fforddiadwy – gydag effeithlonrwydd ynni a chysur thermol yn elfen allweddol.

“Rydym yn llwyr gefnogi galwad ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma am fwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru, ac rydym yn annog Aelodau Seneddol i addo eu cefnogaeth i ryddhau Cymru rhag danwyddu ffosil, ac i ddarparu cymorth ariannol brys i’r rhai mwyaf agored i niwed y gaeaf hwn a’r gaeaf nesaf.

“Mae hefyd angen cynyddu cynlluniau inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni yn sylweddol.”