Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i effeithiau economaidd Brexit.

Daw ei galwad ar drothwy dadl yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Ebrill 24), gyda’r galw am ymchwiliad annibynnol yn magu coesau.

Mae dros 170,000 o lofnodion ar ddeiseb yn galw am ymchwiliad, ar ôl i bôl piniwn ddangos yn ddiweddar mai dim ond 25% o’r rhai wnaeth ateb oedd yn gwrthwynebu ei gynnal.

Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu’r gyfradd dwf economaidd isaf o blith gwledydd y G7, ac mae’r IMF yn darogan mai dyma fydd yr unig economi o blith y gwledydd hynny i grebachu eleni.

Beth am Gymru?

Yn ôl Liz Saville Roberts a Phlaid Cymru, mae Cymru wedi’i chael hi’n eithriadol o anodd o ganlyniad i Brexit, gyda busnesau’r wlad wedi diodde’n benodol.

Maen nhw hefyd yn dweud bod economi Cymru wedi’i tharo wrth golli dros £1.1bn ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fethu â sicrhau ffynhonnell arall o arian yn lle arian Ewropeaidd sydd wedi’i golli o ganlyniad i Brexit.

“Dair blynedd ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r rhybuddion enbyd am ddirywiad economaidd yn dod yn wir,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae gan y Deyrnas Unedig y gyfradd dwf isaf o blith gwledydd y G7, ac mae’r IMF yn rhagfynegi mai hi fydd yr unig economi flaenllaw i grebachu eleni.

“Er nad Brexit yw’r unig ffactor, does dim modd gwadu ei bwysigrwydd.

“Mae busnesau Cymru’n ei chael hi’n anodd ymdopi â thomenni o dâp coch Brexit er mwyn masnachu â’n cymdogion agosaf.

“Yn syml iawn, mae rhai wedi rhoi’r gorau i drafferthu.

“Mae methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddisodli rhaglenni buddsoddi’r Undeb Ewropeaidd am adael creithiau parhaol ar Gymru – yn economaidd ac yn gymdeithasol.

“Mae cyllideb Cymru fwy na £1.1bn yn is o ganlyniad i raglenni disodli annigonol.

“Wnaeth neb bleidleisio dros hyn.

“Mae gan y rheiny oedd wedi addo’r hyn na fydd fyth yn cael ei gyflwyno gryn dipyn i’w ateb.

“Mae’n amser i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i ddatgelu effeithiau llawn Brexit ar ein masnach, ein heconomi a’r cyfleoedd i bobol ifanc.

“Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wir yn credu bod Brexit wedi sicrhau’r manteision a addawyd, byddent yn croesawu’r cyfle i’w brofi drwy ymchwiliad cynhwysfawr a diduedd.”