Mae dynes o Lanuwchllyn sy’n byw yn Seland Newydd yn dweud bod y cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwyfwy pwysig i fenywod sy’n rhoi genedigaeth, gan fod bydwragedd a’r system famolaeth “dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd”.

Mae Lliwen Gwyn MacRae, sy’n rhedeg y wefan www.hypnobirthingcoach.com yn byw yn Aria yng ngogledd Seland Newydd, ac yn cynnal sgyrsiau byw am roi genedigaeth ar y grŵp Facebook Ge-Ni.

Mae hi’n dweud nad oes gan fydwragedd amser o hyd i ateb cwestiynau a gwrando, oherwydd bod y system dan gymaint o bwysau, ond fod rhannu profiadau amrywiol mewn lle diogel a gonest yn hynod fuddiol i fenywod sy’n feichiog ac sydd eisiau trafod genedigaeth.

Mae’r grŵp yn magu hyder, yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwneud merched yn fwy positif.

Hyder

Yn ôl Lliwen Gwyn MacRae, mae hunanhyder yn hollbwysig i roi genedigaeth, gan ei fod yn paratoi menywod am y profiad, a dydy’r cyfryngau ddim yn helpu merched i deimlo fel pe baen nhw wedi grymuso ar gyfer y profiad.

“Mae hyder yn un o’r pethau mwyaf pwysig yn fy marn i,” meddai wrth golwg360.

“Os nad wyt ti’n gallu coelio yn chdi dy hun a choelio bo ti’n mynd i allu’i wneud o, ti’n mynd i roi’r cyfrifoldeb yna i rywun arall, fatha os dw i yn teimlo’n ofnus neu fod gennyf ddim hyder yn fy hun.

“Beth sy’n digwydd weithiau yw bod merched yn cael llawer o ymyrraeth feddygol oherwydd eu bod nhw’n chwilio am rywun arall i ddweud wrthyn nhw beth i’w wneud a sut i roi geni.

“Y gwir ydy, mae ein cyrff ni wedi eu dylunio i roi geni.

“Y rhan fwyaf o’r amser, mae’n digwydd yn hollol naturiol.

“”Beth sy’n digwydd yn aml iawn rŵan, gan bo ni wedi colli’r hyder yma ac mae cymdeithas yn dweud wrtha ni bascially bod ni methu gwneud o, mae o’n condition-io pobol i feddwl bo ni methu gwneud o heb help.

“Wrth gwrs rydym angen cefnogaeth a help emosiynol, ond dim bob amser rydym angen yr ymyrraeth feddygol yna.

“Pan does gennym ddim hyder, beth sy’n digwydd yn anffodus ydy rydym yn chwilio am rywun arall i roi’r hyder yna i ni.

“Mae’r rhan fwyaf o ferched sy’n disgrifio eu profiad fel un trawmatig yn dweud mai dim oherwydd beth ddigwyddodd iddynt yn gorfforol [oedd yn gyfrifol am] y ffordd gwnaethant nhw deimlo, bod eu llais ddim yn cael eu clywed a doedden nhw ddim yn deall beth oedd yn mynd ymlaen.

“Mae bod yn hyderus yn golygu dod i ddysgu a dod i wybod mwy am enedigaeth a beth sy’n digwydd yn y corff.

“Beth yw dy opsiynau di? Beth ydy dy hawliau di?

“Wrth rannu straeon efo’n gilydd fel hyn, rydym yn gallu bod yn fwy hyderus.

“Rydym yn clywed actually, roedd ganddi hi’r broblem yma mewn beichiogrwydd ond roedd hi dal yn gallu gwneud o.

“Doeddwn ddim yn sylweddoli bod gennyf i opsiynau, bod gennyf hawliau.

“Yn araf bach, wrth glywed straeon gwahanol, ti’n dod i ddeall dy opsiynau a hawliau.

“Mae hyder yn magu.

“Mae’n anodd iawn i ferched ofyn cwestiynau a dydyn nhw ddim yn teimlo’n hyderus, ac mae’r dywediad yna o just go with the flow, ti ddim yn gallu rheoli dim byd beth bynnag.

“Rwy’n bersonol yn teimlo bod hwnna yn rywbeth detrimental uffernol i’w ddweud wrth ferched.

“Mae yna elfennau o dy brofiad geni yr wyt ti’n gallu eu rheoli.

“Yn amlwg, mae rhai elfennau yn amlwg sydd allan o’n rheolaeth.

“Os ydym ni’n gallu canolbwyntio ar yr hyn rydym yn gallu’i reoli, mae hyn yn mynd i roi profiad llawer mwy grymus i ti na theimlo fod gennyt ti ddim rheolaeth o gwbl dros y sefyllfa.”

Codi ymwybyddiaeth

Yn ôl Lliwen Gwyn MacRae, mae codi ymwybyddiaeth yn rhan elfennol o helpu pobol sydd am roi genedigaeth.

Does gan fydwragedd ddim digon o amser i wneud hyn wastad, oherwydd bod y gwasanaeth iechyd dan gymaint o bwysau, meddai, gan ychwanegu y gall y grŵp fod yn lle i drafod â phobol sydd wedi cael yr un profiadau.

“Mae codi ymwybyddiaeth i bobol sy’n geni yn bwysig oherwydd, yn anffodus, rydym yn gwybod bod bydwragedd a’r system famolaeth dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd,” meddai.

“Dydy o ddim yn fai’r bydwragedd o gwbl, bai’r system ydi o.

“Does dim digon o fydwragedd.

“Beth sy’n digwydd ydy, dydyn ni ddim yn cael digon o amser efo nhw, felly efallai bo ni ddim yn cael amser digonol i ofyn cwestiynau.

“Dydy’r bydwragedd ddim yn cael digon o amser i egluro bob math o sefyllfa.

“Wrth godi ymwybyddiaeth, rydym ni’n gallu cefnogi’n gilydd.

“Fel enghraifft, ar y grŵp gall person ofyn oes rhywun arall wedi cael placenta praevia o’r blaen.

“Mae comments yn dod, mae’n rhoi ychydig mwy o wybodaeth i’r ferch yna sydd yn y sefyllfa yna.

“Mae hefyd yn rhoi’r cysur yna ’na ddim jyst fi ydy o.

“Mae codi ymwybyddiaeth o enedigaeth yn helpu i gefnogi’n gilydd, i wybod bod yna bobol eraill yn mynd trwy be’ ti’n mynd trwyddo.

“Hefyd, i ddod â fo i’r arwyneb.

“Mae [rhoi genedigaeth] yn rywbeth mae i fyny at 80% o ferched yn gwneud yn eu bywyd.

“Dydy o ddim yn cael ei drafod yn agored iawn.

“Mae pob un person ar y blaned yma’n cael ei eni, ond mae hi dipyn bach fel get on with it.

“Mae angen dathlu’r merched yma sy’n amazing a phwerus yn rhoi geni.

“Mae o’n big deal, ac mae merched angen lleisio eu profiadau a’u concerns, a chael y gefnogaeth yna.”

Cefnogaeth

Gyda nifer o ferched sydd am roi genedigaeth wedi’u hynysu oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau agos yn yr oes sydd ohoni, mae’r grŵp hwn yn gyfle i gael cefnogaeth.

“Mae yna lawer o ferched rŵan, efallai bod nhw wedi symud i’r ddinas, efallai bod ganddyn nhw ddim ffrindiau agos na theulu yn byw wrth ymyl nhw,” meddai Lliwen Gwyn MacRae.

“Mae bod yn feichiog yn gallu bod yn gyfnod eithaf unig.

“Yr un fath ar ôl rhoi geni hefyd, ti’n gallu teimlo mai chdi yw’r unig berson yn y byd sydd yn disgwyl neu newydd gael babi.

“Mae’r gefnogaeth yna’n hanfodol.

“Dydyn ni fel dynol ryw ddim fod i fagu plant ar ein pennau ein hunain, dydyn ni ddim yn wired i fod fel yna, rydym yn wired i gael cefnogaeth.

“Dydy o ddim yn bosib i bawb drwy’r amser.

“Mae amgylchiadau fel lle maen nhw’n byw neu efallai bo nhw ddim yn agos efo’u teulu.

“Mae llawer o resymau gwahanol.

“Mae cael platfform ar-lein yn gallu bod o fudd enfawr i rywun, i beidio teimlo’r unigrwydd yna ac i beidio teimlo mai nhw yw’r unig un sydd wedi bod, neu yn mynd trwy rywbeth specific.”

‘Meddylfryd yw popeth’

Yn ôl Lliwen Gwyn MacRae, er mwyn i’r corff a’r meddwl gydweithio yn ystod genedigaeth, mae angen meddwl yn bositif.

“Mae meddylfryd yn bopeth yn ystod beichiogrwydd a geni yn fy marn i, oherwydd y dywediad Saesneg yw ‘your body knows what to do, it’s your mind you need to convince’,” meddai.

“Mae’r ffordd rydym yn meddwl yn gallu effeithio ar y ffordd rydym yn teimlo.

“Mae’r ffordd rydym yn teimlo yn gallu cael effaith arnom ni’n gorfforol.

“Er enghraifft, os ydym yn teimlo ofn ofnadwy, rydym yn mynd i densio fyny, dydyn ni ddim yn mynd i allu cydweithio efo’r corff.

“Ac efallai wedyn bod labour yn mynd i fod yn brofiad llawer mwy anghyffyrddus neu boenus.

“Mae dod i’r meddylfryd iawn ym mynd i helpu ti i gael genedigaeth llawer mwy llyfn, effeithiol a chyffyrddus.

“Mae mwy o siawns i ti gael profiad positif a grymus yn hytrach na phrofiad ofnus, disempowering.

“Os oes gennyt ti’r meddylfryd positif yna, mae hynny am helpu ti fel mam newydd hefyd.

“Dydw i ddim yn byw yn la-la-land chwaith, rwy’n sylweddoli bod pethau yn gallu mynd oddi ar y llwybr oeddech chi’n gobeithio amdano fo.

“Weithiau mae angen yr help meddygol yna, sy’n ocê.

“Os ydym wedi paratoi’n feddyliol am y posibiliad o rywbeth yn mynd off y llwybr, rydym yn mynd i ymdopi llawer gwell efo addasu i’r sefyllfa, yn hytrach na ddim meddwl dim byd am y peth, dim paratoi’n feddyliol ac wedyn cael profiad eithaf ofnus a thrawmatig.

“Roedd yn gwneud fi’n drist clywed bod yna ferched yn cael profiadau eithaf negyddol.

“Rwy’ wedi dechrau cynnal cyrsiau o fis Tachwedd blwyddyn ddiwethaf, lle rwy’n helpu merched i baratoi’n feddyliol ar gyfer genedigaeth ond hefyd yn rhannu gwybodaeth am beth sy’n digwydd yn gorfforol a sut rydym ni’n gallu cydweithio efo’r corff er mwyn cael profiad positif a grymus.

“Mae’n deilwng i bob dynes.

“Efallai efo’r rhai merched, mae’r cyfle yna’n cael ei dwyn oddi arnyn nhw oherwydd bo nhw ddim efo’r wybodaeth i wneud dewis gwybodus er mwyn rhoi informed consent ac yn y blaen.

“Mae meddylfryd yn bopeth.”

Pwysig bod merched yn rhannu eu straeon

Er bod llawer o ferched wedi cysylltu â Lliwen Gwyn MacRae yn nyddiau cynnar y grŵp Facebook, mae llai yn gwneud erbyn hyn, er ei bod yn dweud ei fod yn hynod bwysig.

“Beth rwy’n meddwl sy’n bwysig yw fod merched yn rhannu eu straeon,” meddai.

“Pan ddechreuon ni’r grŵp, roeddem yn cael gymaint o ferched yn cysylltu eisiau rhannu eu straeon.

“Roedd yn absolutely ffantastig.

“Rwy’n teimlo erbyn rŵan, mae yna lai o ferched yn cysylltu eisiau rhannu.

“Rwy’n meddwl bod llai o ferched yn cysylltu, felly efallai bod merched ddim mor hyderus i rannu.

“Rwy’ eisiau dweud, plîs rhannwch eich stori oherwydd gallith eich stori chi fod o fudd a chymorth enfawr i rywun arall.

“Wrth rannu ein straeon, dyna sut rydym am helpu i gefnogi ein gilydd.”

Cefndir y grŵp

Ynghyd â dwy ddynes roddodd enedigaeth gartref, creodd Lliwen Gwyn McRae y grŵp ar ddiwedd 2021 i glywed straeon merched o eni drwy’r Gymraeg.

Mae hi’n credu bod angen trafod straeon merched o Gymru am roi genedigaeth mewn unrhyw leoliad, boed hwnnw’n brofiad positif neu negyddol.

“Roedden ni wedi gwneud llawer o waith ymchwil, a sylweddoli fod dim llawer o straeon o ferched Cymraeg allan yna,” meddai.

“Doedden ni ddim dim ond eisiau siarad efo merched oedd wedi geni adref.

“Gwnaethon ni ddechrau grŵp a gweld os fysa gan bobol diddordeb rhannu eu straeon, rhannu bob math o straeon geni.

“Roeddem yn meddwl y byddai’n ffordd dda o gefnogi ein gilydd a rhoi llwyfan trafod i ferched.

“Mae un ym mhob tair o ferched yn disgrifio’u profiad geni fel un negyddol neu hyd yn oed trawmatig.

“Yn aml iawn, dydyn ni ddim yn cael cyfle i drafod y peth a chael y gefnogaeth yna.

“Roeddem yn meddwl bod dechrau grŵp Facebook fel yma yn ffordd dda o leisio ein teimladau a gofyn am gefnogaeth, a dod i normaleiddio geni os ydy hynny’n gwneud unrhyw synnwyr.

“Mae jyst yn rywbeth dydyn ni ddim yn siarad llwyth amdano, yn enwedig yn y Gymraeg.

“Mae’n un o’r profiadau mwyaf pwysig yn dy fywyd di.

“Rwy’n meddwl, wrth greu’r grŵp yma, mae’n gallu bod yn gefnogaeth enfawr i lawer o ferched yn enwedig os ydyn nhw’n disgwyl am y tro cyntaf neu maen nhw wedi cael profiad eithaf trawmatig o’r blaen.

“Rydym yn aml yn rhannu’r horror stories yma, ond ddim yn aml y straeon positif.

“Mae rhai merched yn teimlo bo nhw ddim eisiau dweud bo nhw wedi cael profiad da, oherwydd bo nhw ddim eisiau dod drosodd yn smug neu ypsetio rywun arall.

“Mae mor, mor bwysig bod merched yn cael clywed straeon positif, ond yn cael y gwirionedd, y nitty gritty o union beth sy’n digwydd.

“Dyna pam wnaethon ni’i gychwyn o.

“Roeddem eisiau cefnogi a helpu merched eraill a chael llwyfan trafod.”

Diogelwch merched

Gyda pharchu ei gilydd yn bwysig yn y grŵp, mae Lliwen Gwyn MacRae a’r merched eraill sy’n ei redeg yn sicrhau bod y merched sy’n ymuno’n bobol ‘go iawn’.

“Mae o’n grŵp preifat,” meddai.

“Mae bob un person sydd eisiau ymuno’n nhw’n cael eu fetio gennyf i, neu Anna Rhys, neu Jane Catherine hefyd.

“Rydym yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n ferched legit.

“Hefyd, mae yna reol yn y grŵp bod ni’n gorfod parchu ein gilydd.

“Mae gennym ni hawl i gicio pobol allan o’r grŵp, math o beth.

“Dyna pam bo ni wedi gwneud o’n breifat, fel bod merched yn gwybod bod pawb sydd yma, yma i gefnogi’n gilydd.”