Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud mai problem dechnegol wnaeth achosi gwall sillafu yn y prawf rhybudd argyfwng ddoe (dydd Sul, Ebrill 23).

Bu i nifer o bobol gwyno ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i’r neges awtomatig gael ei gyrru i ffonau symudol am 3yp.

Roedd y larwm uchel, oedd i fod i ganu ar bob dyfais sy’n defnyddio rhwydweithiau 4G a 5G yn y Deyrnas Unedig, wedi para deg eiliad ac roedd ffonau’n dangos neges yn hysbysu defnyddwyr nad oedd angen gweithredu mewn ymateb i’r prawf.

Er i’r Gymraeg ymddangos yn gyntaf yng Nghymru, fe wnaeth y gwall achosi ychydig o stŵr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd y neges yn dweud: “Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i’ch cadw chi ac eraill yn Vogel” – “yn ddiogel” ddylai’r neges fod wedi dweud, wrth gwrs.

“Fe wnaeth gwall technegol achosi un gair yn fersiwn Gymraeg y prawf rhybudd argyfwng i gael ei gamsillafu,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae’r ffaith i hyn ddigwydd mewn neges brawf yn golygu y gallwn ei ddatrys yn y dyfodol.”

Pobol yn ymateb yng Nghymru

Fe wnaeth cannoedd o bobol droi at Twitter i leisio’u barn am y gwall.

“Beth mae “yn Vogel” fod i’w olygu @UKGovWales?” gofynnodd Joshua Declan McCarthy, Swyddog Ymgyrchoedd Plaid Ifanc.

“Mae hyn wedi bod yn y penawdau ers wythnosau ac wythnosau ac wythnosau a doeddech chi methu ffeindio unrhyw un i brawf ddarllen y cyfieithiad Cymraeg?”

“Byddai rhywun wedi meddwl y byddent wedi gwirio neges o’r fath!,” meddai un arall ar Facebook.

 

“Braf gwybod bod y llywodraeth yn cymryd y system rhybudd argyfwng mor ddifrifol, dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi trafferthu cael cyfieithiad cywir i’r Gymraeg,” meddai’r awdur a cholofnydd golwg, Manon Steffan Ros.

“Mae mor hawdd cael y stwff yma’n iawn!!”

“Llywodraeth dda yn rhedeg y wlad ma chi!! Dw i’n Vogel, be am bawb arall?” meddai un arall ar Facebook.

Fe aeth eraill i chwilio am Vogel: “Felly roedd y neges argyfwng yng Nghymru yn dweud wrth bawb i gadw yn Vogel yn hytrach na chadw yn ddiogel,” meddai’r cynghorydd Llafur, Rachel Garrick.

“Rwy’n meddwl eu bod nhw wedi dweud wrthym am fynd am heic enfawr fel cenedl…”