• Rhybudd cynnwys: Mae’r stori hon yn cyfeirio at hunanladdiad

Bydd protest yn cael ei chynnal yn Aberystwyth er cof am fyfyriwr fu farw drwy hunanladdiad ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r trefnwyr yn galw am weld gwelliannau yng ngwasanaeth llesiant prifysgol y dref, ac am leihau’r stigma o amgylch hunanladdiad.

Fe wnaeth Charlie McLeod o Alton yn Swydd Hampshire ofyn am gymorth gan Wasanaeth Llesiant Myfyrwyr y brifysgol wrth i’w iechyd meddwl ddirywio yn ystod ei ail flwyddyn yn astudio Cyfrifiadureg.

‘Haeddu triniaeth iawn’

Mae Romana Nemcová, un o drefnwyr y brotest, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Seicoleg ac Addysg, yn honni na chafodd ffrindiau a chyd-fyfyrwyr Charlie McLeod ddim cefnogaeth seicolegol gan y brifysgol ar ôl ei farwolaeth, er eu bod nhw wedi gofyn am hynny.

Ers marwolaeth Charlie McLeod, mae Romana Nemcová, ar y cyd â Michaela Mislerova, Eloise Fletcher, Helen Cooper a Bayanda Vundamina, wedi bod yn holi myfyrwyr eraill am eu problemau â’r gwasanaeth llesiant yn y brifysgol.

Y broblem fwyf sy’n ymddangos o brofiadau myfyrwyr yw bod y gwasanaethau ond yn darparu gwybodaeth gyffredinol ac yn eu cyfeirio at fudiadau eraill, meddai Romana wrth golwg360.

“I fyfyrwyr sy’n cael cyfnodau anodd gyda’u hiechyd meddwl, mae’n anodd iawn gofyn am help. Os mai cysylltu â rhywun arall ydy’r cyngor maen nhw’n dderbyn, mae’n gwneud iddyn nhw deimlo fel nad oes neb yn gwrando.”

Problem arall ydy’r diffyg gwiriadau sy’n cael eu gwneud ar fyfyrwyr, meddai.

“Mae myfyrwyr yn haeddu triniaeth iechyd meddwl iawn, a’u bod nhw’n cael help yn syth wrth gysylltu â’r person cyntaf.

“Os nad yw’r help hwnnw ar gael, yna dylai’r gwasanaethau llesiant wneud apwyntiadau i fyfyrwyr.”

Byddai’r criw yn hoffi gweld y gwasanaethau llesiant yn cyflogi myfyrwyr er mwyn helpu i wella’r cyfathrebu a chynyddu ffydd myfyrwyr yn y system.

‘Dim digon o help’

Yn ôl Romana Nemcová, mae’r dystiolaeth maen nhw wedi’i derbyn dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn dangos nad yw myfyrwyr “yn derbyn digon o help”.

“Roedd eu profiadau’n amrywiol, gyda rhai’n dweud eu bod nhw wedi gofyn am help ond heb gael apwyntiadau, neu apwyntiadau’n cael eu canslo heb esboniad.”

‘Fe wnaeth y gwasanaeth cymorth rhywiol newydd arwain fi at ddagrau drwy ddweud bod rhaid i fi dderbyn bod e erioed wedi digwydd, ac os oedd o’n dweud bod o heb, ddoed e heb. Wrth i fi grio, dangosodd brifysgolion eraill y gallwn fynd iddyn nhw os oeddwn i “methu delio efo fo”. Dywedodd wrtha i faint o dda oedd e’n gwneud yn dod dros y peth a gofyn pam fy mod i methu bod felly. Eisteddais yno’n crio ac yn dweud: “Dw i ddim wedi gwneud dim o’i le”, ac edrychodd arna i a dweud: “Mae e’n dweud bod e heb wneud e cariad, ac mae’n amlwg bod rhywbeth wedi ypsetio chdi, ond mae’n rhaid i chdi ddod drosto fe achos mae e wedi.” Dw i wedi rhoi’r gorau i fy nghymdeithasau oherwydd hyn.’

“Fe wnaeth rhai pobol ddweud eu bod nhw’n profi meddyliau hunanleiddiol, a’u bod nhw heb gael digon o gefnogaeth. Dywedwyd wrthyn nhw ffonio Samaritans neu Mind, neu fynd i’r ysbyty,” meddai wedyn.

“Mae angen i bobol deimlo’n ddiogel mewn cyfarfodydd gyda’r swyddfa llesiant, a theimlo fel eu bod nhw’n gwrando. Ar y funud, maen nhw’n teimlo fel eu bod nhw’n cael eu barnu.

“O fy mhrofiad fy hun, dw i’n gwybod nad ydy eu hagwedd yn ddigon sensitif.

“Dydy ffrindiau a chyd-fyfyrwryr Charlie, na fi, wedi cael help iawn.

“Rydyn ni wedi cael estyniadau ar waith, amgylchiadau arbennig, a chefnogaeth at yr angladd, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi hynny’n fawr.

“Fodd bynnag, doedd dim cymorth seicolegol i ni er ein bod ni wedi gofyn yn agored am hynny.

“Dw i wedi rhannu fy meddyliau hunanleiddiol, ond chefais i ddim help proffesiynol gan y gwasanaethau llesiant.

“Diolch i fy narlithwyr cefnogol o’r adrannau Seicoleg ac Addysg, ynghyd â therapydd preifat, dw i wedi cael help, ond ni ddylai hyn fod yn gyfrifoldeb i ddarlithwyr.”

Teyrnged a phrotest

Wrth siarad am Charlie McLeod, dywedodd Romana Nemcová fod ganddo empathi “rhyfeddol” ag eraill, y gallu i ddarllen pobol, siarad yn rhwydd â dieithriaid llwyr, a “gweithio popeth allan amdanyn nhw’n sydyn iawn”.

“Roedd hyn yn caniatáu iddo ddod yn ffrindiau ag ystod eang o bobol, ac roedd yn gweld y gorau ym mhawb,” meddai.

“Roedd yn feistr ar weindio pobol fyny, ac roedd yr olwg ddifynegiant ar ei wyneb yn golygu ei fod bob tro’n llwyddo i berswadio pobol gyda’i jôcs.

“O siarad gyda theulu Charlie, dw i’n gwybod bod ei bresenoldeb wedi plethu’n dynn i’r atgofion fydd ganddyn nhw am weddill eu bywydau fel y bod Charlie, mewn ryw ystyr, wastad efo nhw.”

Pwrpas y brotest ddydd Mawrth nesaf (Mai 2), fydd yn dechrau o Draeth y Gogledd am 2:30yp, fydd talu teyrnged i Charlie McLeod ac eraill sydd wedi dioddef yn sgil hunanladdiad ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn prifysgolion eraill.

Mae cymdeithasau ym mhrifysgolion Bangor, Caerwrangon, Abertawe a Keele yn bwriadu trefnu digwyddiadau er cof am Charlie McLeod, ac i drafod hunanladdiad yn eu prifysgolion nhw hefyd.

“Rydyn ni eisiau dangos i fyfyrwyr eu bod nhw ddim ar eu pennau eu hunain gyda’u meddyliau a’u problemau,” meddai Romana Nemcová.

“Bydd cymdeithasau’r brifysgol yn dod ynghyd i’n cefnogi ni, a byddwn ni’n cerdded fyny i’r brifysgol.

“Dw i’n gobeithio y bydd y digwyddiad yn dangos i wasanaethau llesiant eu bod nhw angen newid eu hagwedd ac y byddan nhw fwy agored am help.”

Ymateb Prifysgol Aberystwyth

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda ffrindiau a theulu Charlie ar adeg mor eithriadol o anodd,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth.

“Mae ein tîm cymorth i fyfyrwyr wedi bod mewn cysylltiad agos â’r rhai y mae’r drasiedi hon wedi effeithio arnynt ac wedi rhoi cymorth iddynt.

“Er na allwn drafod amgylchiadau unigol, fel Prifysgol rydym yn cynnig gwasanaethau lles helaeth sy’n cynnwys cynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai mewn angen, a hwyluso mynediad at wasanaethau statudol arbenigol lle bo’n briodol.

“Mae gwrando a gweithredu ar adborth gan ein myfyrwyr yn bwysig iawn i ni.

“Rydym yn adolygu ein prosesau’n barhaol ac yn diweddaru ein harferion, gan gynnwys tynnu ar gyngor allanol ac arfer gorau sy’n datblygu’n barhaus, i sicrhau ein bod yn rhoi’r cymorth gorau posibl i’n myfyrwyr.

“Mae ein staff cymorth hefyd yn cyfarfod â myfyrwyr i drafod eu barn a’u hawgrymiadau wrth i ni barhau i ymateb i ddatblygiadau yn y maes pwysig hwn o waith.

“Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein gwasanaethau’n cyd-fynd â’r arferion gorau yn y sector.

“Tra mae rhai o’r profiadau sydd wedi’u casglu eisoes wedi cael sylw fel rhan o ddatblygiadau diweddar o’n darpariaeth, rydym yn parhau mewn cysylltiad â chyfeillion a theulu Charlie er mwyn sicrhau bod yr holl amgylchiadau perthnasol yn derbyn yr ystyriaeth lawnaf posibl.”

  • Pan fo bywyd yn anodd, mae’r Samariaid ar gael ddydd a nos, bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae modd eu ffonio’n rhad ac am ddim ar 116 123, e-bostio jo@samaritans.org neu fynd i’r wefan www.samaritans.org i ddod o hyd i’ch cangen leol.