Bydd £3m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi er mwyn recriwtio staff ambiwlans brys.

Nod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yw gwella amseroedd ymateb ar gyfer y rhai mwyaf sâl neu sydd wedi’u hanafu yn fwyaf difrifol.

Bydd y cyllid yn galluogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i recriwtio tua 100 o staff rheng flaen ychwanegol a chyflwyno gwasanaeth newydd ‘Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru (CHARU).

Bydd y gwasanaethau CHARU yn ceisio gwella canlyniadau pobol sydd wedi dioddef ataliad ar y galon.

Bydd y staff ychwanegol yn helpu i reoli’r galw cynyddol am ofal mewn argyfwng ac yn lleihau’n rhannol rai o’r heriau cymhleth yn y system ehangach sy’n parhau i roi pwysau dwys ar staff a gwasanaethau gofal mewn argyfwng.

Mae’r pwysau hyn yn cael eu dwysau gan amrywiaeth o ffactorau lleol a chenedlaethol gan gynnwys heriau gyda llif cleifion drwy’r system ysbytai, yn ogystal â chyfyngiadau staffio.

Bydd y staff ambiwlans brys yn cael eu defnyddio mewn ffordd wedi’i thargedu ledled Cymru yn yr ardaloedd sydd o dan y pwysau mwyaf a lle mae’r angen clinigol mwyaf.

‘Gwella amseroedd’

Dywed yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan eu bod nhw’n darparu’r cyllid ychwanegol hwn gan eu bod nhw’n cydnabod y “pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaeth ambiwlans i ymateb i’r bobl fwyaf sâl ac sydd wedi’u hanafu fwyaf difrifol”.

“Drwy gynyddu capasiti staff yn y tymor byr gallwn wella amseroedd ymateb a sicrhau gofal gwell i bobl sydd wedi bod yn aros yn rhy hir am ambiwlans,” meddai.

“Mae ein rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng yn cefnogi cynnydd mewn staffio mewn meysydd hanfodol yn y tymor canolig ac yn helpu staff i ddarparu’r gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.”

‘Pwysau eithafol’

Mae “pwysau eithafol” ar draws y system gofal brys a gofal mewn argyfwng, yn ôl Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i atebion i’r problemau cymhleth a hirsefydlog,” meddai.

“Yn y cyfamser, rydym yn cynyddu ein gweithlu i roi ein hunain yn y sefyllfa orau bosibl i gwrdd â’r galw cynyddol ac rydym eisoes wedi recriwtio mwy na 260 o swyddi rheng flaen yn y ddwy flynedd diwethaf.

“Bydd 100 o swyddi rheng flaen ychwanegol yn cryfhau ein capasiti hyd yn oed ymhellach, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu hyn a’r fenter CHARU newydd arloesol, a fydd, gobeithio, yn gwella’r canlyniadau i’n cleifion mwyaf difrifol sâl.”