Mae Dafydd Iwan yn dweud mewn cyfrol newydd sydd wedi’i chyhoeddi gan yr Eisteddfod Genedlaethol y bydd traddodiadau cymunedol Cymru’n fantais fawr pan ddaw Cymru’n wlad annibynnol.
Melin Drafod, grŵp polisi sy’n dweud eu bod nhw’n llunio agenda flaengar ar gyfer Cymru annibynnol, sydd wedi cyhoeddi Dychmygu Cymru Annibynnol.
Bydd y gyfrol ar werth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis nesaf.
Ymhlith y cyfranwyr eraill mae’r sylwebydd rygbi Eddie Butler, cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, yr awdur Mike Parker a’r ymgyrchydd hawliau plant Mercy Shibemba.
‘Cadw a datblygu traddodiadau’
“[Mae] gennym gryfderau yn ein traddodiadau fel Cymry y mae angen i’w cadw a’u datblygu wrth inni gynllunio’r Gymru Newydd,” meddai Dafydd Iwan yn y gyfrol.
“Ac un o’r cryfderau hynny yw grym y gymuned leol, a’i photensial i greu ac i gynnal diwylliant ac economi gref a chynaliadwy.
“Mae’r hyn sy’n digwydd yn prynu tafarnau cymunedol ar hyn o bryd yn enghraifft odidog o’r hyn sydd gennyf dan sylw.
“Efallai nad ydym yn llawn werthfawrogi’r ffaith fod y traddodiad gwirfoddol mor gryf yn ein ffordd ni o fyw … edrychwn ar ein traddodiad corau meibion a bandiau pres er enghraifft.
“Ac y mae llawer canwr sydd wedi cyrraedd uchelfannau’r byd canu proffesiynol yn barod iawn i dalu teyrnged i’r traddodiad eisteddfodol lleol fel lle y gosodwyd y seiliau i’w gyrfa.”
‘Dechrau dychmygu: dychmygu’r hyn y gallwn ni fod’
“Y brif neges yr hoffem ni i bobol gymryd o’r llyfr hwn yw dechrau dychmygu: dychmygu’r hyn y gallwn ni fod,” meddai Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod.
“Nawr yw’r amser inni drin a thrafod yr hyn sy’n bosib yn rhydd o hen strwythurau San Steffan, yn rhydd yn y Gymru newydd.
“Hoffem ddiolch i’r holl gyfranwyr am eu herthyglau, a mawr gobeithio y byddan nhw’n ysbrydoli pobl eraill.
“Nawr yw’r amser i baratoi am annibyniaeth ac i fynd i’r afael â’r cwestiynau sy’n ein hwynebu fel cenedl oherwydd y gefnogaeth gynyddol iddi.”
Yn ogystal â chyhoeddi’r llyfr, bydd Melin Drafod yn cynnal trafodaeth yn yr Eisteddfod am dynged yr iaith mewn Cymru annibynnol am 4yp ar ddydd Iau, Awst 4 ym Mhabell y Cymdeithasau 1.
Yn siarad yn y digwyddiad fydd yr Athro Emyr Lewis, Llinos Anwyl o Gymdeithas yr Iaith, Elfed Williams o YesCymru, Menna Machreth ac Alun Davies AS.