Mae Darren Millar wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “siomedig” fod Penny Mordaunt allan o’r ras i ddod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig.

Roedd yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd wedi bod yn gefnogwr brwd o Penny Mordaunt ers dechrau’r ymgyrch, ond bydd e nawr yn rhoi ei gefnogaeth i Rishi Sunak.

Cafodd y cyn-Ganghellor gefnogaeth gan 137 o Aelodau Seneddol Ceidwadol, tra bod Liz Truss wedi derbyn 113 o bleidleisiau.

Fodd bynnag, dim ond 105 o bleidleisiau gafodd Penny Mordaunt, sy’n golygu ei bod hi’n disgyn allan o’r ras.

“Diolch i bawb am eich holl waith caled,” meddai.

“Rydyn ni’n mynd ymlaen gyda’n gilydd.”

Mae gan y ddau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol dros fis o ymgyrchu i aelodau’r Blaid Geidwadol cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi ar Fedi 5.

Dyna fydd diwrnod olaf Boris Johnson yn ei swydd, gyda’i olynydd yn symud i Downing Street y diwrnod canlynol.

Bydd y Senedd yn torri i fyny ar gyfer yr haf ddydd Iau (Gorffennaf 21), sy’n golygu fod gan Rishi Sunak a Liz Truss tan ddiwedd mis Awst i apelio at 160,000 o aelodau’r blaid.

‘Fi yw’r person cywir’

“Rwy wedi cyffroi nawr o gael cyflwyno’r achos i’r Blaid Geidwadol am fy nghynllun economaidd newydd beiddgar a fydd yn torri trethi, yn tyfu ein heconomi ac yn rhyddhau potensial pawb yn ein Deyrnas Unedig,” meddai Liz Truss.

“Rwy’n hynod o falch o fod yn rhan o’r Blaid Geidwadol, ac rwy wedi cyffroi o dreulio’r wythnosau nesaf yn profi i’n holl aelodau gwych pam mai fi yw’r person cywir i’n harwain.”

‘Canlyniad cryf iawn’

Mewn datganiad, dywedodd tîm Rishi Sunak fod “hwn yn ganlyniad cryf iawn gyda mandad clir gan ASau”.

“Bydd nawr yn gweithio ddydd a nos i gael y mandad gan deulu ehangach y Blaid Geidwadol i guro Llafur, amddiffyn yr Undeb a manteisio ar gyfleoedd Brexit,” meddai’r datganiad.

“Mae’r dewis i aelodau yn syml iawn: Pwy yw’r person gorau i guro Llafur yn yr etholiad nesaf? Mae’r dystiolaeth yn dangos mai Rishi yw hwnnw.” 

‘Siomedig’

“Yn amlwg dw i’n siomedig iawn dros Penny,” meddai Darren Millar wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl y byddai hi wedi bod yn Brif Weinidog da i bobol ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru.

“Roeddwn i’n meddwl bod ganddi’r dalent, y weledigaeth a’r angerdd i allu bwrw ymlaen â’r gwaith.

“Ond dyna ydi’r rheolau, mae Penny bellach allan o’r ras a bydda i nawr yn cefnogi ymgyrch Rishi Sunak.

“Dw i’n meddwl fod ganddo fwy o hygrededd (na Liz Truss), mae o’n Brexiteer go iawn, ac fe wnaeth o lot i helpu pobol yn ystod y pandemig.”

‘Trafodaethau bywiog’

“Dw i ddim yn meddwl fod y ras wedi gwneud niwed i’r Blaid Geidwadol,” meddai Darren Millar wedyn.

“Rydan ni’n ddemocratiaeth fywiog a dw i’n meddwl bod pobol yn disgwyl trafodaethau bywiog yn ystod ymgyrchoedd arweinyddiaeth.

“Dw i ddim yn meddwl fod hynna yn beth drwg o gwbl.”