Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi dyn fu farw mewn rhaeadr ger Glyn Nedd ddydd Llun (16 Awst).

Bu farw Hemanta Kumar Rai, 28 oed, o Farnborough yn Hampshire, ar ôl mynd i drafferthion ym Mhontneddfechan amser cinio ddydd Llun.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu’r De eu galw i’r digwyddiad, yn ogystal â’r gwasanaeth tân ac achub, tîm achub mynydd a’r ambiwlans, ond bu farw Hemanta Kumar Rai yn y fan a’r lle.

Mae ei deulu a Chrwner Ei Mawrhydi wedi cael gwybod.

Ac mae’r heddlu yn atgoffa pobol ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n cadw eu hunain, a’u teulu a’u hanwyliaid, yn ddiogel pan maen nhw mewn a gerllaw dyfroedd, ac mae posib dod o hyd i gyngor diogelwch dŵr ar wefan Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau.

Dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ym Mhontneddfechan

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i helpu’r dyn 28 oed o Hampshire ddoe (dydd Llun, Awst 16)