Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur tros Ddelyn wedi’i benodi i Fwrdd Taliadau Annibynnol Senedd Cymru.

Bydd Syr David Hanson yn dechrau ar ei rôl ar y bwrdd sy’n penderfynu ar gyflogau Aelodau’r Senedd ddydd Llun (23 Awst).

Bu yn cynrychioli etholaeth Delyn yn San Steffan rhwng 1992 a 2019, ac yn ystod ei gyfnod yno bu’n Weinidog yn Llywodraeth Tony Blair.

Eisteddodd ar nifer o bwyllgorau hefyd, gan gynnwys y Pwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch yn fwyaf diweddar.

Mae ei benodiad yn llenwi sedd a oedd yn wag ar y Bwrdd yn dilyn ymddiswyddiad ym mis Mawrth eleni.

Senedd Cymru oedd y corff seneddol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu corff annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau ei Aelodau.

Cafodd y Bwrdd ei sefydlu yn sgil Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, ac mae’n gyfrifol am benderfynu ar gyflogau a chymorth ariannol i Aelodau o’r Senedd.

“Balch iawn”

Dywedodd Syr David Hanson, ei fod e’n “falch iawn o gael y cyfle i weithio ochr yn ochr â chyd-aelodau o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol er mwyn gwneud yn siŵr bod Aelodau o’r Senedd yn cael y lefel iawn o gefnogaeth i wneud eu gwaith yn effeithiol ar ran pobl Cymru”.

“Mae’r rhain yn amseroedd heriol i Aelodau o’r Senedd wrth iddyn nhw fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig, yn ogystal â chyflawni eu dyletswyddau creiddiol wrth gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y llywodraeth i gyfrif,” meddai Elizabeth Haywood, Cadeirydd y Bwrdd.

“Bydd David yn gaffaeliad i’r Bwrdd wrth iddo fynd ati i adolygu cyflog a lwfansau Aelodau yn ystod y blynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, ei bod hi’n “hynod falch ein bod ni wedi gallu penodi aelod o’r Bwrdd sydd â phrofiad mor helaeth ac eang â David.

“Bydd y safon eithriadol o uchel o bobol sy’n gwasanaethu ar y Bwrdd yn helpu i roi hyder i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario gydag uniondeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.”