Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei ladd mewn gwrthdrawaid gyda bws yn Abertawe.

Roedd y ddamwain wedi digwydd ar Ffordd Kingsway yn hwyr brynhawn ddoe, pan gafodd y dyn 37 oed ei daro gan fws gwyn. Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys ond bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.

Yn awr mae’r heddlu wedi apelio am gymorth gan bobol oedd yn yr ardal ar y pryd.

Maen nhw’n arbennig o awyddus i siarad gyda phobol oedd wedi cynnig help i’r dyn ond oedd wedi gadael cyn i blismyn allu cael eu manylion.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodath am symudiadau’r dyn neu sut yr oedd y bws yn cael ei yrru gysylltu â nhw drwy ffonio Uned Blismona Ffyrdd y Gorllewin ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.