Mae’r heddlu yn ymchwilio i farwolaethau dynes 107 oed a’i merch 69 oed ym Mhowys.

Daethpwyd o hyd i gyrff y ddwy yn eu cartref yn Llanelwedd ychydig wedi deg y bore ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod marwolaethau’r ddwy yn “sydyn”.

Nid yw’r heddlu yn chwilio am unrhyw rai eraill mewn perthynas â’r marwolaethau.