Llywelyn Thomas
Mae dau ddyn wedi gwadu iddyn nhw lofruddio ffermwr o Gymru yn ei gartref yn Swydd Caergrawnt.
Daethpwyd o hyd i gorff Llywelyn Thomas, 76 oed, yn ei gartref yn Chittering ym mis Rhagfyr 2011.
Cred yr heddlu bod Mr Thomas wedi ei ladd wrth i ladrad fynd o chwith.
Mae Frankie Parker a Gary Smith yn gwadu iddyn nhw ei ladd, ac mae John Smith yn gwadu iddo helpu eraill mewn perthynas â’r drosedd.
Daeth post-mortem i’r casgliad bod y ffermwr wedi marw o anafiadau i’w wyneb a’i ben.
Bydd yr achos yn cychwyn ar y cyntaf o Orffennaf yn Llys y Goron Caergrawnt.