Mae cais dadleuol i godi fferm wynt yn mynd gerbron cynghorwyr Abertawe heddiw.

Mae cwmni ynni adnewyddol RWE nPower wedi gwneud ail gais i godi fferm wynt ar Fynydd y Gwair, ger Felindre,  ar ôl i’r cais gwreiddiol gael ei wrthod yn 2008.

Arweiniodd y penderfyniad yna at gyfres o apeliadau a bu’r Uchel Lys a Llywodraeth Cymru ynghlwm yn y dadlau.

Heddiw fe fydd Pwyllgor Rheoli a Datblygu Cyngor Dinas Abertawe yn trafod cais y cwmni i godi 16 o dyrbinau gwynt ar dir comin yng ngogledd sir Abertawe. Mae tri thyrbein yn llai nag yn y cais gwreiddiol, ac nid oes tyrbein yng nghanol y mawn dyfnaf, sydd o bwys amgylcheddol medd ymgyrchwyr.

Cadeirydd grŵp sy’n gwrthwynebu’r  cais yw Glyn Morgan, sy’n pori defaid ar dir comin Mynydd y Gwair.

“Ni gyd wedi twlu fe mas!” meddai.

“Mae’r gost i’r pwrs cyhoeddus yn enfawr – mae wedi costio i Gyngor Abertawe ac i Lywodraeth y Cynulliad.

“Mae’n beth ofnadwy bod nhw’n dal i drio; dechreuon ni’r frwydr yma ddeng mlynedd yn ôl.”

Ond mae cwmni RWE nPower wedi dweud eu bod nhw eisoes wedi buddsoddi’n helaeth yng Nghymru a bod potensial i wario £1 biliwn o’r newydd petaen nhw’n cael caniatâd i godi rhagor o ffermydd gwynt.

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma