David Cameron
Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn ag effaith toriadau cyllidebau Ewropeaidd ar gymunedau tlotaf Cymru.
Fe fydd David Cameron yn cwrdd ag arweinwyr Ewrop ym Mrwsel heddiw i geisio dod i gytundeb ar gyllideb yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Prif Weinidog a rhai gwledydd eraill am weld y gwariant yn cael ei gwtogi ond mae llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jose Manuel Barroso yn dadlau bod angen cyllideb mwy er mwyn hybu twf ac adfer swyddi.
Roedd trafodaethau rhwng yr arweinwyr wedi dod i ben ym mis Tachwedd heb i’r gwledydd ddod i gytundeb am y gyllideb ar gyfer 2014-20.
Mae Jose Manuel Barroso wedi annog arweinwyr i ddod i’r bwrdd trafod mewn “ysbryd o gyfaddawd” gan rybuddio y byddai oedi pellach yn “anfon neges negyddol iawn” yn ystod cyfnod economaidd bregus.
‘£800m o doriadau’
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Ewrop, Rhodri Glyn Thomas fod Plaid Cymru “wedi rhybuddio’n gyson” am effaith toriadau cyllidebau Ewropeaidd ar y cymunedau tlotaf a mwyaf bregus.
“Pan drafodwyd y gyllideb Ewropeaidd yn San Steffan ym mis Tachwedd, pleidleisiodd ASau Llafur o Gymru i wneud y toriadau hyn fydd, yn ôl y Dirprwy Weinidog, yn golygu o leiaf £800m o doriadau i orllewin Cymru a’r Cymoedd, a swm anhysbys ond sylweddol i ffermwyr trwy doriadau i’r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC).
“Mae’n siomedig fod ASau Llafur yn galw am doriadau yn Llundain ac yn tanseilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i amddiffyn buddiannau Cymru.”