Mae disgwyl i Weinidog Iechyd Cymru ymateb yn llawn heddiw i’r ymchwiliad cyhoeddus i ffaeleddau gofal yn swydd Stafford, a’i oblygiadau i Gymru.

Roedd Adroddiad Francis ddoe wedi tynnu sylw at “ddioddefaint ofnadwy a diangen cannoedd o gleifion” yn Ysbyty Stafford rhwng 2005 a 2009.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod “diwylliant negyddol peryglus” ar fai a bod angen newidiadau pellgyrhaeddol.

Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi ei phenodi gan David Cameron i gynnal adolygiad ar sut ddylai ysbytai’r gwasanaeth iechyd ddelio â chwynion. Roedd hi wedi galw am well safon gofal ac am newid y drefn gwynion ar ôl iddi feirniadu’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr yn yr ysbyty yng Nghaerdydd y llynedd.

Mae Lesley Griffiths eisoes wedi rhybuddio bod angen dysgu gwersi o’r helynt yn Stafford a sicrhau “nad yw ffaeleddau systemig fyth yn rhan o ddiwylliant y Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru.”

‘Cyfraith Robbie’

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod Adroddiad Francis yn cynnwys llawer o argymhellion sy’n berthnasol i Gymru a bod angen i Gymru ystyried deddfu arnyn nhw.

Dywed Leanne Wood ei bod hi’n croesawu un o argymhellion yr adroddiad y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n celu camgymeriadau gael eu herlyn.

Galwodd Plaid Cymru am gyflwyno deddf debyg fis diwethaf wrth drafod achos Robbie Powell, a fu farw ym mis Ebrill 1990 o Glefyd Addison, sy’n gyflwr prin ond triniadwy a ddylai fod wedi ei ganfod, medd Plaid Cymru.

“Buasai cynnig Plaid Cymru yn gwneud dileu pethau yng nghofnodion meddygol cleifion yn anghyfreithlon,” meddai Leanne Wood.

“Ar hyn o bryd, does dim yn y gyfraith i atal ffugio cofnodion meddygol, na dim chwaith mewn cyfraith fyddai’n mynnu bod rhieni yn cael y gwir hanes am y farwolaeth petai plentyn yn marw.

“Mae Plaid Cymru eisiau i rywbeth gael ei wneud am hyn yng Nghymru, a byddwn yn pwyso am newidiadau deddfwriaethol i roi terfyn ar yr hyn sydd, yn fy marn i, yn nam ar y system.”