Vicky Pryce
Fe fydd golygydd gwleidyddol y Sunday Times yn rhoi tystiolaeth heddiw yn achos cyn-wraig Chris Huhne, sydd wedi ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gymryd ei bwyntiau am oryrru ar ei thrwydded.
Roedd Isabel Oakeshott wedi helpu Vicky Pryce i ddatgelu’r drosedd mewn straeon papur newydd yn 2011 ar ôl i’w phriodas chwalu pan gyfaddefodd Huhne ei fod yn cael perthynas gyda dynes arall.
Daeth gyrfa wleidyddol Huhne i ben pan blediodd yn euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ddydd Llun – cyn hynny roedd wedi gwadu iddo ddwyn perswâd ar ei wraig i gymryd y pwyntiau ar ei ran ym mis Mawrth 2003.