Cymru 2–1 Awstria

Roedd Gareth Bale ar dân wrth i Gymru guro Awstria o ddwy gôl i un mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty nos Fawrth.

Sgoriodd Bale yn yr hanner cyntaf cyn creu’r ail i’r eilydd, Sam Vokes, yn yr ail hanner. Ac er i Marc Janko gipio un haeddianol yn ôl i’r ymwelwyr fe ddaliodd tîm Chris Coleman eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Hanner Cyntaf

Cliriodd Adam Mathews un ymdrech oddi ar y llinell wrth i Awstria ddechrau’r gêm yn dda ond cryfhaodd Cymru wedi hynny gyda Craig Bellamy yn dod o fewn modfeddi i agor y sgorio.

Daeth y gôl agoriadol hanner ffordd trwy’r hanner pan ddaeth pas wych Joe Allen o hyd i Bale; rheolodd yntau’r bêl yn gelfydd cyn curo’r gôl-geidwad gydag ergyd isel gywir.

Roedd y ddau dîm yn chwarae pêl droed da iawn yn yr hanner cyntaf ac fe wnaeth yr ymwelwyr rwydo wedi hanner awr ond daeth lluman y dyfarnwr cynorthwyol i arbed Cymru.

Roedd Glyn Myhill yn gadarn yn y gôl i’r Cochion hefyd a gwnaeth yn dda i arbed ergyd galed Marko Arnautovic o ochr y cwrt cosbi a pheniad rhydd Sebastien Prodl.

David Alaba oedd prif fygythiad Bale am deitl chwaraewr gorau’r hanner a bu bron i’r chwaraewr canol cae unioni pethau gydag ergyd dda o bellter eiliadau cyn yr egwyl ond tarodd ei gynnig y postyn.

Ail Hanner

Cymru oedd y tîm gorau ar ddechrau’r ail gyfnod a doedd fawr o syndod pan ddyblodd Vokes y fantais gyda pheniad da o groesiad cywir Bale saith munud wedi’r egwyl.

Cafodd Bale ei hunan gyfle i ychwanegu trydedd yn fuan wedyn ond anelodd ei hanner foli heibio’r postyn.

Awstria orffennodd y gêm gryfaf ac roeddynt yn llawn haeddu eu gôl chwarter awr o’r diwedd. Daeth Arnautovic o hyd i Janko yn y cwrt chwech gyda chroesiad cywrain a pheniodd y blaenwr yn gadarn ac yn gywir heibio Myhill.

Ond daliodd Cymru eu gafael wedi hynny i sicrhau buddugoliaeth dda, buddugoliaeth sydd yn baratoad perffaith ar gyfer y gêm gystadleuol nesaf yn yr Alban ar ddiwedd mis Mawrth.

.

Cymru

Tîm: Myhill, Matthews (Gunter 72’), Davies, Ricketts, Williams, Ledley, Allen, Collison (Church 84’), Vaughan (King 46’), Bale (Robson-Kanu 60’), Bellamy (Vokes 46’)

Goliau: Bale 21’, Vokes 52’

Cerdyn Melyn: Robson-Kanu 90’

.

Awstria

Tîm: Almer, Pogatetz, Suttner (Schiemer 87’), Prodl, Klein, Ivanschitz (Junuzovic 61’), Alaba, Kavlak (Leitgeb 75’), Arnautovic, Weimann (Jakob Jantscher 62’), Janko

Gôl: Janko 75’

Cerdyn Melyn: Klein 39’