George North
Mae asgellwr Cymru, George North, wedi cyfaddef fod y gêm yn erbyn Iwerddon wedi bod yn un rwystredig iddo.

Roedd yr ornest ar ben erbyn hanner amser a dywedodd y cawr o asgellwr iddo geisio’n ofer i gael mwy o’r bêl yn ei ddwylo.

““Roeddwn i’n teimlo ar adegau fod pawb wedi cyffwrdd yn y bêl heblaw amdana i,” meddai wrth Golwg360.

“Fel yna mae hi mewn rygbi  ar adegau.”

Cafodd Cymru gyfleoedd i sgorio sawl cais yn yr ail hanner ond doedden nhw ddim mor gywir â’r Gwyddelod.

“Roedd ganddon ni ychydig o broblemau cyfathrebu a bydd hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni wella  dros yr wythnos nesaf,” meddai George North.

North yn ganolwr?

Mae Cymru’n cwrdd â Ffrainc nos Sadwrn ym Mharis, a’r tîm cartref yn chwilio am fuddugoliaeth gyntaf hefyd. Mae symud North i chwarae yn ganolwr yn opsiwn i hyfforddwyr Cymru, gyda’r tîm yn cael ei gyhoeddi yfory, ond dywedodd yr asgellwr o Ynys Môn fod cystadleuaeth chwyrn am y safle.

“Mae safon y canolwyr yn uchel, gyda Jamie (Roberts), Scott (Williams) a Jonathan (Davies) yn cystadlu am eu lle, felly dwi’m yn siŵr os oes cyfle i mi chwarae yna ond gawn ni weld.

“Fydd hi ddim yn hawdd mynd allan i Ffrainc ar ôl gêm fel un Iwerddon,” cyfaddefodd.

“Mae hi’n anodd  iawn chwarae oddi cartref yn Ffrainc, mewn chwip o stadiwm. Ond mae’r bois i gyd yn edrych ymlaen.”

Stori: Owain  Gruffudd