Mae capten Abertawe  wedi arwyddo estyniad o un flwyddyn ar ei gytundeb gyda’r clwb.

Mae Garry Monk, 33, yn un o ddyrnaid o chwaraewyr sydd wedi chwarae ym mhob un o bedair cynghrair Lloegr gydag Abertawe.

Er i Monk gyfaddef nad yw wedi chwarae gymaint ag yr hoffai y tymor yma, mae’n hapus gyda’r cytundeb fydd yn ei gadw yn y Liberty tan 2015.

“Rydw i’n falch iawn, mae’r clwb yma wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd am bron i ddeng mlynedd ac rydw i’n hapus iawn yma,” meddai Monk.

“Mae fy nghalon i yma a dydw i erioed wedi bod eisiau gadael ers y diwrnod cyntaf i mi gyrraedd yma.”

Ymunodd Monk gyda’r Elyrch yn 2004 ac fe ddaeth yn gapten ddwy flynedd yn ddiweddarach.  Ers hynny mae’r amddiffynnwr wedi chwarae dros 200 o weithiau i’r clwb, a dywedodd ei fod yn gobeithio parhau i gyfrannu i’r tîm.

“Hoffwn fod wedi cael chwarae mwy’r tymor yma, ond pan dw i wedi cael cyfle dwi’n meddwl fy mod i wedi dangos fy ngallu i gystadlu ar y lefel yma o hyd.

Yn sicr dydw i ddim am ildio fy safle yn y tîm yn hawdd,” meddai.

“Hefyd, mae’r rhan fwyaf o reolwyr yn y gynghrair yn deall bod angen chwaraewyr profiadol yn y garfan er mwyn helpu’r chwaraewyr iau ar ac oddi ar y cae.”

Yn y dyfodol, mae Monk yn gobeithio ennill ei drwydded hyfforddi, ond dywedodd ei fod yn awyddus i barhau i chwarae am y tro.

“Mae hynny’n gynllun i’r dyfodol. Mae digon o fywyd ar ôl yn yr hen gi yma fel chwaraewr.”