Joe Allen
Mae canolwr Cymru, Joe Allen wedi dweud ei fod yn gobeithio rhoi gwell perfformiad dros dîm Cymru heno, wedi iddo gydnabod nad yw wedi chwarae ei orau i Lerpwl yn ddiweddar.
Gall Allen, 22, ennill ei 13eg gap dros Gymru heno, pan fydd tîm Chris Coleman yn herio Awstria yn Stadiwm y Liberty. Ac mae’r canolwr ifanc yn gobeithio y bydd chwarae yng nghrys coch Cymru heno yn rhoi hwb iddo berfformio ar ei orau.
“Mae pawb yn ymwybodol nad ydw i wedi bod yn chwarae yn dda yn ddiweddar. Ond mae’n digwydd i bawb ym myd pêl-droed. Mae pawb yn profi cyfnodau da a drwg. Ond rydw i’n edrych ymlaen at wella fy mherfformiadau mor fuan â phosib,” meddai Allen.
“Rydw i’n falch i fod yn ôl hefo carfan Cymru, ac yn gobeithio cael chwarae rhan yn y gêm ddydd Mercher a rhoi perfformiad da os ydw i’n cael y cyfle.”
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi dweud na fydd Gareth Bale yn chwarae yn safle’r blaenwr heno, er ei fod yn ystyried rhoi seren y tîm yno yn y dyfodol.
Mae Cymru wedi dioddef o ddiffyg goliau dan reolaeth Chris Coleman, a Gareth Bale yw’r unig chwaraewr i sgorio ers i’r rheolwr gymryd y llyw o Gary Speed.
“Ni fydd Gareth yn dechrau fel blaenwr yn erbyn Awstria, ond mae’n rhywbeth rydw i’n ystyried at y dyfodol. Rhaid sgorio goliau i ennill gemau, a does dim amheuaeth ei fod yn rôl y gall Gareth ei berfformio ynddo,” meddai Coleman.
Bydd Coleman yn croesawu Craig Bellamy a Jack Collison yn ôl i’r garfan heno, wedi anafiadau i’r ddau, wrth iddo obeithio am ei ail fuddugoliaeth ers cymryd y llyw.
Bydd Cymru yn chwarae Awstria am 7.45yh yn Stadiwm y Liberty.