Rebecca Adlington
Mae’r nofwraig, Rebecca Adlington, a enillodd ddwy fedal aur yng ngemau Olympaidd 2008 wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol.

Heddiw, cyhoeddodd Adlington, 23, y byddai hi’n ymddeol o gystadlu ac yn gorffen ei gyrfa nofio, sydd wedi cynnwys ennill teitlau Olympaidd, Rhyngwladol a Chymanwladol.

Llwyddodd Adlington i gipio dwy fedal efydd yng ngemau Olympaidd Llundain y llynedd, ond heddiw, dywedodd ei bod hi wedi penderfynu rhoi’r gorau i gystadlu.

“Rydw i’n casáu’r gair ymddeol. Dwi’n dal i fwynhau nofio, ond dydw i ddim am gystadlu a bod yn athletwr bellach.  Ond byddai’n dal i nofio pan dwi’n 90 oed.”

Diolchodd Adlington, o Mansfield, Sir Nottingham, i’w theulu a’i hyfforddwr Bill Furniss am eu cymorth dros y blynyddoedd.

“Buaswn i wedi methu a chyflawni’r hyn a wnes i yn fy ngyrfa heb fy nheulu. Hyd yn oed fy chwiorydd, fe wnaethon nhw helpu gyda fy ngwaith cartref.  Bill oedd y dylanwad mwyaf, mae o wedi fy helpu fel athletwr ac fel person,” meddai Adlington.

Rebecca Adlington oedd pencampwr nofio cyntaf Prydain ers 1988, pan lwyddodd i gipio medalau aur yn y ras 400m a 800m yn Beijing, a’r Prydeiniwr cyntaf i ennill dwy fedal aur am nofio ers 1908.