Leon Britton
Mae canolwr Abertawe, Leon Britton wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb, a fydd yn ei gadw yn y Liberty tan 2016.

Britton, 30, yw’r diweddaraf o nifer o chwaraewyr Abertawe i arwyddo cytundeb newydd, wrth i Michu, Ashley Williams a Wayne Routledge hefyd gytuno i aros yn y Liberty.

Daeth Leon Britton ar fenthyciad o West Ham yn 2002, ac ers hynny mae wedi chwarae dros 400 o gemau i Abertawe.

Dywedodd Britton: “Rydw i’n hynod o falch. Dwi wedi dweud o’r blaen, galla’i feddwl am ddim byd gwell na gorffen fy ngyrfa yma yn Abertawe.”

Dywedodd doedd erioed wedi disgwyl i’r Elyrch ddatblygu fel y gwnaethon nhw, ond ei fod yn edrych ymlaen at gêm gyntaf y clwb yn rownd derfynol cwpan y Capital One.  Mae nawr yn gobeithio i’w gytundeb newydd alluogi iddo gyrraedd y garreg filltir nesaf i’r clwb.

“Y targed i mi oedd 500 gem, buasai hynny yn rhywbeth arbennig.  Hoffwn feddwl fy mod yn gallu perfformio yn dda ac yn rheolaidd am sawl tymor arall, a dwi’n meddwl fy mod yn chwarae yn well nag erioed ar hyn o bryd.”