Craig Bellamy
Mae Craig Bellamy wedi dweud ei fod am barhau i chwarae dros Gymru, yn groes i’r sïon amdano’n ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol.

Mae Bellamy wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Awstria nos yfory yn Abertawe ac wedi dweud fod chwarae dros Gymru “yn gyffur.”

“Does dim anrhydedd sy’n fwy. Mae’n gyffur a dyna pam dwi yma. Dyma fy nhîm cenedlaethol.”

Mae wedi cydnabod fod y cyfle i chwarae wrth ochr Gareth Bale o Tottenham yn ffactor hefyd.

“Ar y foment yma mae’n un o chwaraewyr gorau’r byd, heb os nac oni bai,” meddai Bellamy.

“Mae’n Gymro, mae’n eiddo i ni ac mae’n rhywun y dylwn ni fod yn falch ohono.

“Mae gyda ni Gareth, Aaron Ramsey a Joe Allen, a gall y rhain fod yn galon i’r tîm am flynyddoedd a theimlais i gyfrifoldeb i ddangos fy malchder a dod nôl,” meddai ymosodwr Caerdydd.

“Pan ddechreuais i roedd chwaraewyr fel Gary Speed yn arwain y ffordd i fi. Roedd e’n esiampl i fi ac rwy am wneud yr un peth.”

Yn dilyn marwolaeth Speed awgrymodd Bellamy y byddai’n ymddeol o’r tîm cenedlaethol ond mae wedi goresgyn materion personol a mân-anafiadau ac yn anelu am gap rhif 71 yn erbyn Awstria nos yfory.