Mae cyn-gefnwr Cymru JPR Williams wedi dweud ei fod heb weld tîm Cymru yn dechrau mor araf â Dydd Sadwrn ers dyddiau du’r 80au a’r 90au.
Ildiodd Cymru 30 pwynt i Iwerddon o fewn 44 munud wrth iddyn nhw geisio amddiffyn pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn y Gamp Lawn y llynedd.
“Dwi’n pendroni pam y dechreuon ni mor araf,” meddai JPR Williams wrth Golwg360.
“Ni wedi ei chael hi’n anodd cipio gemau y dylwn ni fod wedi eu hennill, fel oedd yn amlwg dros yr haf, ac rydyn ni nawr yn brin o hyder.
“Gaethon ni’n curo yn ardal y dacl yn erbyn Iwerddon, a gaethon ni’n curo yn y sgrymiau ble oeddwn i’n disgwyl inni fod yn gryf,” meddai.
Gêm Ffrainc
Gwrthododd JPR Williams â rhoi’r bai ar yr hyfforddwr Robert Howley, ond mae’r canlyniad ddydd Sadwrn wedi rhoi pwysau mawr ar y prif hyfforddwr dros-dro cyn y gêm yn erbyn Ffrainc.
Collodd Les Bleus i’r Eidal ac mae hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, yn proffwydo y bydd y ddau dîm yn ysu i ennill.
“Mae’n rhaid i ni fynd nôl at ein ffordd o chwarae, a hynny am 80 munud,” meddai Shaun Edwards.
“Os gwnawn ni hynny bydd gobaith. Bydd Ffrainc lan amdani, ond byddwn ni hefyd.”
Mae Cymru wedi colli’r wyth gêm ddiwethaf ac wedi disgyn i ddegfed yn rhestr detholion y byd, yn is na’r Eidal.
Mae tîm Cymru’n cael ei gyhoeddi Ddydd Iau, ac mae Ryan Jones a Richard Hibbard yn ffit bellach, ac mae disgwyl i Aaron Shingler fod ar gael hefyd.
Mae pwysau ar Rob Howley i ddewis Justin Tipuric yn flaenasgellwr yn dilyn ei berfformiad yn eilydd, sy’n codi cwestiwn am ble fydd y capten Sam Warburton yn chwarae.