James Harris
Mae cyn-fowliwr Morgannwg, James Harris wedi ei gynnwys yng ngharfan Lloegr ar gyfer y gyfres T20 yn erbyn Seland Newydd.
Mae Harris, sy’n 22 oed, yn cymryd lle bowliwr Surrey, Stuart Meaker sydd wedi anafu ei wddf.
Daeth y gêm gyntaf i derfyn ar ôl 9.1 pelawd yn unig oherwydd y glaw, gyda Seland Newydd wedi cyrraedd 70-1.
Bydd y gêm yn cael ei hail-chwarae ddydd Mawrth.
Roedd Harris eisoes wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gemau 50 pelawd cyn cael yr alwad i ymuno â’r garfan 20 pelawd.
Ymunodd Harris â Middlesex ar ddiwedd tymor diwethaf o Forgannwg, gan ddweud ei fod yn teimlo y byddai symud i Loegr yn cryfhau’r tebygolrwydd y byddai’n cael ei ddewis i chwarae criced ar y llwyfan rhyngwladol.