Leigh Halfpenny - chwaraewr gorau Cymru ddydd Sadwrn
Boi rygbi Golwg360, Owain Gwynedd sy’n tynnu sylw ar y da a’r drwg ym mherfformiad Cymru yn erbyn y Gwyddelod ddydd Sadwrn.

BoomBoom, BoomBoom, BoomBoom!!! Dyna’r sŵn mae nghalon i yn ei wneud ac erbyn hyn mai’n fore dydd Llun.  Wow, am gêm, yr emosiynau wedi bod dros y siop!!!

Dwi ddim yn un am ddefnyddio ystrydebau’n aml, ond roedd honna yn gêm o ddwy hanner. Cymru’n warthus yn yr hanner cyntaf ac wedyn yn wych yn yr ail.  Ar y llaw arall fysa rhywun yn gallu dadlau bod Iwerddon yn wych yn yr hanner gyntaf a ddim cystal yn yr ail.

Y gwirionedd ydi bod Cymru wedi gwneud gormod o gamgymeriadau ar ddechrau’r gêm, a hyd yn oed ar ddechrau’r ail hanner. O gyfuno hynny gyda chywirdeb llwyr y Gwyddelod,  ac roedd y cochion fwy neu lai wedi rhoi 27 pwynt  o fantais i’r ymwelwyr efo fawr mwy na hanner awr ar ôl.

Dim ots pa mor dda oedd Cymru’n chwarae tuag at y diwedd, doedd dim gobaith caneri fod tîm oedd efo cymaint o fantais ar y cae ac ar y sgôr fwrdd am ddatgymalu’n llwyr ac ildio’r fuddugoliaeth.

Rhaid rhoi clod i ymosod y Gwyddelod yn yr hanner cyntaf am gymryd pob cyfle a gynigwyd ond be oedd hyd yn oed yn fwy trawiadol oedd yr amddiffyn. Lawr i 14 dyn ar ddau achlysur ac yn gorfod cwblhau tacl ar ôl tacl am bron i hanner awr ac yna ildio dim ond 19 pwynt pan fyddai wedi gallu bod llawer mwy.

Dydd Sadwrn oedd yr wythfed gêm yn olynol i Gymru ei golli ac am y tro cyntaf yn ein hanes, pump o’r bron gartref.

Y Drwg

Rhaid i’r tîm i gyd gymryd cyfrifoldeb am y dechrau gwael ac am golli ond pe bai rhai unigolion wedi bod yn gywir efo’i sgiliau a’u penderfyniadau fe allai pethau fod wedi bod yn wahanol.

Jonathan Davies – dwi’n ffan enfawr o’r canolwr ac yn teimlo’i fod yn sicr o’i le ar daith y Llewod, ond roedd hon yn bell o fod ei gêm orau yn y crys coch. Ddwywaith wrth ymosod fe daflodd bas flêr  oedd droedfeddi tu ôl i’w darged gan ildio meddiant i’r gwrthwynebwyr. Ar ddau achlysur arall pan oedd gan Gymru ddynion ychwanegol yn y llinell ymosodol, ac yn edrych yn bendant i sgorio fe daflodd ffug-bas a chael ei daclo. Petai wedi taflu’r bas dwi’n siŵr y byddai Cymru wedi sgorio cais, os nad dwy – efallai fod y ddwy bas wyllt yn gynharach wedi taro ei hyder.

Ken Owens – pan fo amser yn mynd yn brin mae’n rhaid manteisio ar bob cyfle sy’n codi ac roedd blerwch y bachwr wrth daflu’r bêl droedfeddi dros y neidiwr gyda’r tîm rhyw ddeg medr o linell y Gwyddelod, ac yna ildio cic gosb am oedi taflu’r bêl i mewn yn nodwedd  siomedig ac yn tanlinellu blerwch y tîm i gyd ar y diwrnod.

Ian Evans – nid yn unig yr ail reng oedd yn euog am redeg i mewn i ardal y dacl efo’r dechneg anghywir. Ar sawl achlysur fe aeth o, ac eraill, i mewn i’r dacl yn uchel a’r bêl unai’n cael ei rhwygo o’u gafael neu’n cael eu dal i fyny mewn sgarmes symudol. Y canlyniad – sgrym i’r Gwyddelod. Yr elfen fwyaf siomedig oedd bod y dacteg yma yn nodweddiadol o’r ymwelwyr a dylai’r Cymry fod wedi gwybod yn well ynglŷn â sut i osgoi colli’r bêl.

Y Da

Mae’n hawdd pwyntio bys at unigolion ar ôl colli ond oherwydd y canlyniad mae’n anodd tu hwnt i glodfori’r rhai da.

Andrew Coombs – ro’n i’n un a oedd yn meddwl efallai y byddai’r ail reng wedi’i chael hi’n anodd cystadlu ar y lefel rhyngwladol, ond prin oedd y dystiolaeth yna. Hynod o weithgar ac un o’r blaenwyr a gariodd y bêl orau drwy gydol yr ornest.

Leigh Halfpenny –  i’w weld yn fwyaf cartrefol a naturiol yn safle’r cefnwr erbyn hyn. Cadarn o dan y gic uchel, rhedeg yn gryf, sgorio ceisia, cicio fel mul a ddim yn poeni beth sydd yn digwydd i’w gorff dim ond ei fod yn cwblhau’r dacl. Dwi ddim yn cofio’r un camgymeriad ganddo.

Y tîm – yr hyn gododd fy nghalon fwyaf ar ôl colli oedd cael gweld y galon a’r balchder a ddangoswyd gan bob un o chwaraewyr Cymru hyd at y funud olaf. Heb hynny ni fyddai Cymru wedi gallu brwydro ac ymladd fel y gwnaethon nhw a byddai’r Gwyddelod wedi sgorio o leiaf hanner cant o bwyntiau.

Rhaid defnyddio’r atgofion yna o’r gêm er mwyn symud ymlaen i’r gêm nesa – Ffrainc.