Mae’r corff hawliau darlledu Cymraeg Eos wedi derbyn llythyr yn cadarnhau y bydd y BBC yn mynd â nhw i dribiwnlys hawlfraint er mwyn setlo’r anghydfod am hawliau darlledu.
Dywedodd Dafydd Roberts ar ran Eos eu bod nhw am gael cyngor cyfreithiol ar y mater.
Nid yw Radio Cymru wedi medru chwarae tua 30,000 o ganeuon Cymraeg ers 1 Ionawr am fod anghydfod am daliadau i gerddorion.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Yn amlwg, byddai’n well gennym ddod i gytundeb heb orfod mynd at wrandawiad Tribwinlys – ac mae’r ffocws ar hynny’n parhau.
“Ond os nad ydym yn medru dod i gytundeb parhaol trwy gynnal trafodaethau gydag Eos dros yr wythnosau nesaf byddai gwrandawiad Tribiwnlys yn sicrhau bod yr holl ddadleuon yn cael eu clywed ac y gellir cyrraedd penderfyniad teg a thryloyw ar gyfraddau masnachol.
“Dyna’r rheswm pam wnaethon ni rhoi gwybod i Eos yr wythnos ddiwethaf ein bod yn bwriadu cychwyn ar broses Tribiwnlys Hawlfraint tra bod ein trafodaethau gydag Eos yn parhau. Cadarnhawyd hyn mewn llythyr agored i Eos ddoe (Mawrth).
“Yn y cyfamser byddwn yn parhau i drafod gydag Eos. Os ydym yn gallu dod i gytundeb trwy drafod sy’n dod a’r anghydfod i ben cyn bo hir, fe fyddwn wrth gwrs yn rhoi terfyn ar y broses Tribiwnlys Hawlfraint.”
Cyfarfod aelodau Eos
Yn dilyn cyfarfod i aelodau Eos yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd neithiwr, dywedodd Dafydd Roberts wrth Golwg360 ei fod yn “siomedig iawn” gyda’r datblygiad diweddaraf.
“Rydym ni wedi bod yn trafod mewn ewyllys da ond yn y cyfamser mae’r BBC wedi bod yn paratoi achos i fynd a ni i’r tribiwnlys.
“Dydd Gwener, fe wnaethon ni gynnig trwydded dros dro i adfer y gerddoriaeth ar Radio Cymru ond maen nhw’n amlwg wedi anwybyddu hynny’n llwyr.”
Bydd Eos yn cynnal cyfarfod arall gydag aelodau’r corff yng Nghaernarfon ddydd Gwener a dywedodd Dafydd Roberts y byddan nhw’n ymateb i’w haelodau yn ysgrifenedig ar ôl cael cyngor cyfreithiol.